Pennaeth bwrdd Betsi i adael ei swydd

Friday, 13 November 2026 at 16:53

By Ystafell Newyddion MônFM

BIPBC

Mae prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gadael ei swydd ar ôl tair blynedd a hanner.

Mae Carol Shilabeer wedi’i phenodi’n brif weithredwr newydd Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Swydd Gaerhirfryn a De Cumbria yng Ngogledd-orllewin Lloegr.

Daw hyn ar ôl iddi amddiffyn adolygiad dadleuol i ddyfodol gwasanaethau gofal brys mewn tair ysbyty ar draws Ynys Môn a Gwynedd.

Ymunodd Ms Shillabeer â bwrdd iechyd Gogledd Cymru fel prif weithredwr dros dro ym mis Mai 2023, yn fuan ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno mesurau arbennig.

Mae Betsi wedi aros ar y lefel uchaf o ymyrraeth yn ystod ei chyfnod, a mis Gorffennaf diwethaf, rhybuddiodd y Gweinidog Iechyd, Mabon ap Gwynfor, ei bod yn wynebu "cyfle olaf" i wella.

Bydd canfyddiadau adolygiad annibynnol i ddiogelwch cleifion, arweinyddiaeth a diwylliant yn y bwrdd iechyd yn cael eu cyhoeddi yn fuan.

Ond dywedodd llefarydd ar ran BCUHB fod Shillabeer wedi arwain y sefydliad "drwy gyfnod o sefydlogi a gwella, gan gydweithio â'r bwrdd, y tîm gweithredol a chydweithwyr ar draws y bwrdd iechyd i sicrhau bod ffocws clir yn parhau ar wella gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru".

Dwyeddod Carol Shillabeer: "Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae cydweithwyr ledled y sefydliad wedi'i gyflawni yn ystod cyfnod eithriadol o heriol."

"Rwyf wedi gweld drosof fy hun ymrwymiad ein staff i gleifion, teuluoedd a chymunedau ledled Gogledd Cymru."

"Mae'r cyfle i ddod yn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Swydd Gaerhirfryn a De Cumbria yn gam nesaf cyffrous i mi yn broffesiynol, ond ni fydd gadael Betsi Cadwaladr a'r nifer o bobl yr wyf wedi gweithio ochr yn ochr â nhw yn hawdd."
 
"Rwy’n ddiolchgar i’r cadeirydd, y bwrdd, y tîm gweithredol a chydweithwyr ar draws y sefydliad am eu cefnogaeth, eu her adeiladol a’u hymrwymiad dros y tair blynedd a hanner diwethaf."

Ychwanegodd Dyfed Edwards, cadeirydd y bwrdd iechyd: "Ymunodd Carol â Betsi Cadwaladr ar adeg hynod o heriol yn hanes y sefydliad ac mae wedi rhoi arweinyddiaeth ymrwymedig a chadarn dros y tair blynedd a hanner diwethaf."

"Mae llawer o waith eto i'w wneud, ac rydym yn glir iawn bod ein taith wella yn parhau. Bydd y bwrdd nawr yn ystyried y trefniadau arwain priodol, a bydd yn cyfleu'r rhain unwaith y bydd y prosesau angenrheidiol wedi'u cwblhau."

Daw ei hymadawiad ynghanol ofnau parhaus y gallai Betsi gau canolfannau gofal sylfaenol brys yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi, Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac Ysbyty Alltwen yn Nhremadog.

Mae adolygiad yn parhau, ac er nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto, mae'r bwrdd iechyd wedi wynebu beirniadaeth am "achosi cryn bryder ymhlith staff, cleifion a chymunedau lleol".

Os caiff y cynlluniau eu cymeradwyo, gallai gwasanaethau gofal brys yn y tair ysbyty ddod i ben erbyn diwedd mis Mawrth.

Dwyeddod Carol Shillabeer ddydd Mawrth: "Mae’r canolfannau gofal sylfaenol brys presennol yn cyfrif am lai nag 1% o apwyntiadau practisau meddygon teulu yn yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu."

"Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried dyfodol y gwasanaeth fel rhan o adolygiad ehangach, a fydd yn nodi'r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau gofal brys ar yr un diwrnod, sy'n deg, yn gynaliadwy ac o ansawdd uchel, i gleifion ledled Gogledd Cymru."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • End the day with Dai

    10:00pm - Midnight

    Two hours of relaxing sounds to round off the weekend

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'