Prif swyddog newydd i drefnwyr Sioe Môn

Thursday, 12 November 2026 at 23:46

By Ystafell Newyddion MônFM

CAM

Mae trefnwyr Sioe Môn wedi penodi prif swyddog newydd.

Mae Gwenno Pugh eisoes wedi cynnal ei Sioe Aeaf gyntaf, a gynhaliwyd ar faes sioe Mona, ger Gwalchmai y penwythnos diwethaf.

Roedd Gwenno, ffermwr lleol, wedi gweithio fel swyddog gweinyddol Cymdeithas Amaethyddol Môn ers sawl blwyddyn bellach, gyda chyfrifoldeb dros stondinau masnach.

Dywedodd: "Rwy’n falch o fod wedi derbyn y swydd prif swyddog, ac yn edrych ymlaen at gyflawni’r rôl a’i ddyletswyddau amrywiol."

"Rwy’n awyddus i gryfhau a hyrwyddo’r gymdeithas, y safle a’r sioeau haf a gaeaf er mwyn sicrhau eu dyfodol a’u ffyniant."

"Edrychaf ymlaen at gyd-weithio hefo holl aelodau, gwirfoddolwyr a chyfranwyr eang y gymdeithas, a fy ngobaith yw atgyfnerthu nodau ac amcanion y gymdeithas a chynyddu’r cyfleoedd hyrwyddo a llogi’r safle unigryw ac aml-ddefnydd hwn."

Mae 2026 wedi bod yn flwyddyn brysur i faes sioe Mona, sydd wedi cynnal digwyddiadau mawr, gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a chystadleuaeth Cân i Gymru, yn ogystal â Sioe Môn draddodiadol, sy'n denu tua 40,000 o ymwelwyr dros ddeuddydd ym mis Awst.

Ychwanegodd Wyn Williams, cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Môn: "Mae’n fraint cael penodi Gwenno fel ein prif swyddog."

"Mi weithiodd yn ddiflino er mwyn sicrhau llwyddiant Sioe Môn, ac wedi cynnal ei Sioe Aeaf gyntaf fel prif swyddog yn ddiweddar."

"Edrychwn ymlaen hefo sicrwydd at y dyfodol, a chael cyd-weithio hefo Gwenno er mwyn parhau datblygiad y safle a’r gymdeithas.”

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Ar y Lôn hefo Dai Sinclair

    4:00pm - 7:00pm

    Dai sy'n cadw cwmni i chi ar eich ffordd adra! Da 'di Dai!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'