Carchar i ddyn ar ôl torri amodau hysbysiad

Thursday, 12 November 2026 at 13:19

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn o Dolgellau wedi cael ei garcharu am chwe mis am ymddygiad bygythiol.

Cafodd Christopher Holland, 38 oed, ei gyhuddo o ddau drosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwarchod y gymuned.

Mi roedd yr amodau’n ei atal rhag defnyddio iaith neu ymddygiad sarhaus neu fygythiol tuag at unrhyw unigolyn, ac rhag achosi ofn neu ofid drwy ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol.

Mi gyflwynwyd yr hysbysiad ym mis Medi yn dilyn digwyddiad blaenol, ond ar 20 Hydref, mi ddilynodd Holland ddyn ar Stryd Fawr Dolgellau cyn ei fygwth drwy wneud ystumiau fel petai’n mynd i’w ddyrnu.

Yna, mi safodd o flaen car y dyn er mwyn ei atal rhag gadael.

Mi aeth Holland i apwyntiad tridiau'n ddiweddarach lle ddaeth yn ymosodol a bygwth trais.

Ym Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mercher, mi gafodd ei garcharu am 26 wythnos.

Dywedodd Arolygydd yr Ardal Iwan Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Dwi’n ymwybodol bod ymddygiad Holland wedi achosi pryder ymysg preswylwyr a busnesau lleol."

"Mae’r gymuned yn allweddol wrth ddatrys problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mi hoffwn i ddiolch i’r unigolion ddaeth atom ni a darparu tystiolaeth a alluogodd swyddogion i weithredu."

"Dwi’n gobeithio bydd y canlyniad hwn yn rhoi tawelwch meddwl ein bod ni’n gwrando, ac mi wnawn ni barhau i weithredu er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo’n ddiogel i fyw, gweithio ac ymweld Dolgellau."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'