Mae dau beilot yn gwella gartref yn dilyn damwain awyren ger RAF y Fali yr wythnos diwethaf.
Cafodd y ddau eu cludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau ar ôl dianc o jet Hawk T2, a chwalodd yn ardal Peniscarnog ddydd Mercher 23 Medi.
Mae'r Awyrlu Brenhinol yn dweud bod ymchwiliad i'r ddamwain yn parhau.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd llefarydd ar ran RAF y Fali bod y ddau beilot "wedi dychwelyd adref ac yn gwella".
Ychwanegodd: "Hoffent ddatgan eu diolch o galon i’r gwasanaethau brys ac i bawb a’u cefnogodd yn syth ar ôl y digwyddiad."
"Maen nhw hefyd yn ddiolchgar iawn am y caredigrwydd, yr anogaeth a’r dymuniadau da gan bobl ledled y byd, ac yn enwedig eu cydweithwyr yn yr RAF a phobl Ynys Môn."
"Mae’r gefnogaeth dros yr wythnos ddiwethaf wedi golygu llawer iawn i’r peilotiaid a’u teuluoedd wrth iddyn nhw ddechrau gwella gartref."
"Gofynnwn yn garedig i chi barchu preifatrwydd y rhai dan sylw wrth iddyn nhw wella. Mae’r ymchwiliad yn parhau."
Disgwylir i'r ddau beilot wella'n llwyr, ac mae eu teuluoedd yn cael eu cefnogi.
Cafodd yr holl weithrediadau hedfan yn ymwneud ag awyrennau jet Hawk T1 a Hawk T2 eu hatal dros dro fel rhagofal yn dilyn y ddamwain.
Cafodd gwasanaethau trên rhwng Caergybi a Bangor eu tarfu hefyd am gyfnod yn dilyn y gwrthdrawiad, oherwydd rhwystr ar y trac.


Ymchwiliadau’n parhau yn dilyn marwolaeth baban
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Ailddechrau hediadau Hawk yn dilyn damwain hyfforddi
Marwolaeth yn Abermaw: rhyddhau dyn heb gamau pellach