Marwolaeth yn Abermaw: rhyddhau dyn heb gamau pellach

Thursday, 8 October 2026 13:31

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Bill Harrison)

Mae dyn a gafodd ei arestio yn dilyn marwolaeth athro ar draeth Abermaw wedi cael ei ryddhau heb unrhyw gamau pellach.

Bu farw Ruhul Arnin Nana yn dilyn digwyddiad yn y dŵr ar y traeth ym mis Mai.

Cafodd dyn 24 oed, hefyd o Birmingham, ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a'i ryddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ei fod bellach wedi'i ryddhau heb gamau pellach yn dilyn adolygiad o'r dystiolaeth.

Mae teulu Mr Nana wedi cael gwybod ac mae addrodiad yn cael ei lunio a bydd yn cael ei gyflwyno i'r crwner Gogledd Orllewin Cymru.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Chris Bell: "Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o'r dystiolaeth yn yr achos hwn, mae ymchwiliad yr heddlu i farwolaeth y dyn wedi'i gau. Cydymdeimlwn gyda'r teulu."

"Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r cyhoedd a gysylltodd â ni ar y pryd i gynorthwyo gyda'n hymholiadau. Roedd hyn yn hynod o werthfawr i'n hymchwiliad."

Mewn cwest yng Nghaernarfon ym mis Mehefin, datgelwyd bod Mr Nana wedi cael ei ganfod yn y dŵr heb ymateb. Datganwyd ei fod wedi marw gan barameddyg yng ngorsaf bad achub leol.

Bu Mr Nana, sy'n wreiddiol o Navsari yn India, yn gweithio fel athro gwyddoniaeth yn Academi Broadway yn ardal Perry Barr yn Birmingham.

Bydd yr cwest i'w farwolaeth yn ailddechrau ar ddyddiad diweddarach.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'