Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid ar gyfer gwella tir cyhoeddus yng nghanol dinas Bangor.
Yn ystod ymweliad â phrosiectau adfywio lleol gan y gweinidog llywodraeth leol ddydd Mawrth, lansiwyd tasglu newydd gyda'r nod o hybu canol trefi yng Nghymru.
Mae dau gyd-gadeirydd wedi cael eu penodi i ddatblygu argymhellion ymarferol ar gyfer gweinidogion ochr yn ochr â busnesau, llywodraeth leol a chymunedau erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r penodiadau yn cyflawni ymrwymiad allweddol i sefydlu'r tasglu o fewn ei 100 diwrnod cyntaf.
Bydd tua £654,000 yn cael ei wario ar welliannau i'r parth cyhoeddus ym Mangor.
Dyweddod Siân Gwenllian: "Mae canol trefi yn parhau i fod yn galon ein cymunedau. Maent yn lleoedd lle mae pobl yn gweithio, yn cael mynediad at wasanaethau, treulio amser gyda theulu a ffrindiau, a chymryd rhan mewn bywyd dinesig a diwylliannol."
"Ond maen nhw'n parhau i wynebu heriau sylweddol oherwydd y ffaith bod ymddygiad defnyddwyr yn newid, pwysau economaidd a'r rôl y mae canol trefi yn ei chwarae ym mywydau pobl bob dydd."
"Dyna pam rydyn ni'n sefydlu'r tasglu hwn i hyrwyddo dyfodol canol trefi Cymru."
"Bydd ei waith yn canolbwyntio ar nodi camau gweithredu a all herio'r dirywiad, a'r newid yn y defnydd i gynyddu nifer yr ymwelwyr, cefnogi busnesau Cymru, denu buddsoddiad a chryfhau bywiogrwydd hirdymor ein trefi a chanol ein dinasoedd."

Dywedodd Tamsin Ramasut, arbenigwr adfywio: "Mae canol trefi yn ganolog i gymunedau ffyniannus - lleoedd lle mae pobl yn cysylltu, busnesau lleol yn tyfu ac yn darparu gwaith a chreu ymdeimlad o berthyn."
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio ar y cyd i helpu ein canol trefi i ffynnu ledled Cymru."
Ychwanegodd Yr Athro Simon Gibson CBE, sylfaenydd y cwmni hyfforddi Alacrity: "Mae ein canol trefi yn hanfodol i gymunedau ac economïau lleol ledled Cymru, ond maent yn wynebu heriau sylweddol sy'n gofyn am weithredu brys a syniadau ffres."
"Rwy'n falch o gyd-gadeirio'r tasglu hwn, sy'n dod ag arweinwyr o bob sector at ei gilydd i ddatblygu atebion arloesol, ymarferol sy'n cael gwared ar rwystrau i dwf, cadw presenoldeb a helpu i greu canol trefi mwy bywiog a gwydn sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif."


Llongyfarch myfyrwyr ar ganlyniadau Safon Uwch
S4C i ddarlledu drama Neil Foden
Cynllun rhannu peiriannau i gefnogi ffermwyr
Llwyddiant cynnar i beilot TB mewn gwartheg
A470: beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad