Mae gwaith sylweddol i ailosod y prif bibellau nwy wedi dechrau ar Stryd y Bont yn Llangefni.
Bydd rhywfaint o aflonyddwch tra bo’r gwaith yn cymryd lle, ond bydd busnesau lleol yn parhau i fod ar agor fel arfer, yn ôl Cyngor Môn.
Fel arwydd o ewyllys da ac i gefnogi trigolion a busnesau’r dref yr effeithir arnynt, mae cwmni Wales and the West Utilities wedi cytuno i ddarparu parcio am ddim ym maes parcio Neuadd y Dref, am gyfnod y gwaith.
Disgwylir y bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn mis Ebrill.


Llwybr teithio llesol Cob wedi'i gwblhau
Daf Owain yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn
Cyfarfod brys ar aflonyddwch Pont y Borth
Cyllid ar gyfer tri phrosiect diwylliannol
Mona yn paratoi ar gyfer Sioe Môn