Mae gwaith wedi'i gwblhau ar lwybr cerdded a beicio gwerth £1.4 miliwn rhwng Niwbwrch a Malltraeth.
Mae'r cynllun teithio llesol yn cynnwys darn 1.25km rhwng maes parcio Pen Cob ac ymyl Niwbwrch, ynghyd â mesurau tawelu traffig a bwrdd uchel o fewn Niwbwrch ei hun i wella diogelwch.
Mae'r llwybr wedi cymryd llai na blwyddyn i'w adeiladu, ac yn ôl Cyngor Môn, mae'n rhan o gynlluniau ehangach i greu 'coridor gwyrdd' ar yr ynys a gwella llwybr Lôn Las Cefni.
Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, sy'n dal y portffolio priffyrdd: "Rydym yn falch iawn o weld y llwybr teithio llesol hwn bellach wedi'i gwblhau. Mae'n enghraifft gwych o ddarparu isadeiledd teithio llesol mewn ardal wledig."
"Mae'r cynllun hwn wedi delio â heriau sylweddol, yn enwedig o ystyried ei leoliad mewn ardal amgylcheddol sensitif sy'n dangos gwerth y bartneriaeth waith gadarn sydd gennym efo Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill."
"Mae'n darparu gwell cysylltiad rhwng Malltraeth a Niwbwrch tra'n cefnogi ein dyheadau ehangach o ran llesiant, cynaliadwyedd a gwella dewisiadau teithio o ddydd i ddydd."

Mae'r cyswllt newydd hefyd yn cynnwys pedwar llecyn ar hyd y Cob er mwyn gwella diogelwch a gwella cysylltiad gyda chyrchfannau allweddol i drigolion, gan gynnwys canol y pentref ac Ysgol Santes Dwynwen.
Gan fod y llwybr yn cynnwys ardaloedd cadwraeth arbennig a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, roedd angen cynllunio yn ofalus i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu, gan gynnwys adfer cynefinoedd ym Mhwll Traeth Bach i gefnogi ystod eang o rywogaethau a monitro parhaus er mwyn sicrhau enillion bioamrywiaeth hirdymor.
Ychwanegodd Molly Lovatt, uwch swyddog partneriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn falch o fod wedi cefnogi Cyngor Môn i ddarparu'r prosiect hwn fel rhan o'n gwaith partneriaeth parhaus yn Niwbwrch."
"Mae ymestyn llwybr Lôn Las Cefni yn gwella cysylltedd â gwasanaethau a chyrchfannau allweddol ond hefyd yn darparu manteision iechyd a lles go iawn i drigolion ac ymwelwyr."
"Mae'r cynllun yn dangos sut gall isadeiledd gefnogi pobl a natur fel ei gilydd gan ehangu mynediad tra'n gwella bioamrywiaeth a gwytnwch hirdymor."

Mae cynllun hirdymor i greu coridor 'Glasffordd Môn' ar draws yr ynys i hybu teithio llesol a'r cynnig twristiaeth ar Ynys Môn, sydd yn ei dro yn cefnogi ymdrechion cenedlaethol i wella cysylltiadau cerdded a beicio yng Nghymru.
Ychwanegodd Emlyn Roberts gan y contractwyr Jones Bros: "Er gwaethaf yr heriau o weithio mewn amgylchedd sensitif, mae ein tîm wedi creu llwybr mwy diogel a hygyrch a fydd o fudd i drigolion ac ymwelwyr am flynyddoedd i ddod."
"Rydym hefyd yn falch bod y prosiect wedi darparu cyfleoedd gwerthfawr i brentisiaid ddatblygu eu sgiliau. Bydd hyn yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes adeiladu, tra'n sicrhau budd parhaol i'r gymuned."
Mae'r llwybr wedi'i ariannu drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, yn cael ei reoli gan Drafnidiaeth Cymru, ac mae wedi'i gynllunio i gydymffurfio â safonau Deddf Teithio Llesol Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Hoffai Cyngor Môn ddiolch i drigolion, perchnogion tir a phartneriaid am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad yn ystod y gwaith o ddarparu'r cynllun."
"Mae'r cynllun hefyd yn adlewyrchu cefnogaeth gyhoeddus gryf, yn dilyn gwaith ymgysylltu yn 2022 ar y weledigaeth Glasffordd Môn ac ymgynghoriad pellach yn 2024 a gadarnhaodd gefnogaeth ar gyfer cysylltiadau teithio llesol fwy diogel."


Daf Owain yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn
Cyfarfod brys ar aflonyddwch Pont y Borth
Cyllid ar gyfer tri phrosiect diwylliannol
Mona yn paratoi ar gyfer Sioe Môn
Gareth Evans-Jones yn ennill Medal Ryddiaith