Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfarfod brys yn dilyn aflonyddwch pellach ar Bont y Borth.
Cyfarfûm â UK Highways A55 DBFO Ltd, yr awdurdodau lleol, asiantau cefnffyrdd, a Heddlu Gogledd Cymru i drafod digwyddiadau diweddar, materion cydymffurfio, y rhaglen a phryderon cymunedol.
Mewn un achos y mis diwethaf, cafodd gweithwyr rheoli traffig eu tynnu'n ôl yn dilyn honiadau o aflonyddu a cham-drin gan aelod o'r cyhoedd.
Yn ôl y dirprwy weinidog trafnidiaeth, mae pob opsiwn yn cael ei ystyried i leihau cau annisgwyl yn y dyfodol.
Dywedodd Mark Hooper: "Mae pobl ar Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru wedi cael eu siomi am lawer rhy hir ynghylch Pont y Borth."
"Mae’r llywodraeth hon yn gweithredu ar frys i roi atebion ar waith. Rydym yn cyflymu’r gwaith i gyflawni ateb hirdymor a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn yn yr hydref."
"Ond mae angen gweithredu nawr ar nifer o faterion ac, ddoe, cynhaliais gyfarfod brys i fynd i’r afael â rhai o’r materion hynny."
Ychwanegodd: "Diogelwch a lles pawb yw ein prif flaenoriaeth. Mae’r ymddygiad diweddar tuag at y rhai sy’n gweithio ar y safle yn gwbl annerbyniol. Ni ddylai neb gael ei aflonyddu na’i gam-drin wrth wneud ei waith."
"Rwyf am dawelu meddwl pawb ein bod yn edrych ar bob opsiwn posibl i leihau cau’r bont heb ei gynllunio yn y dyfodol, gan gynnwys parhau â thrafodaethau ar dechnoleg camerâu a mesurau cydymffurfio, a gweithio ymhellach gyda phartneriaid ar gamau gorfodi."
"Rydym yn cydnabod yr aflonyddwch gwirioneddol a sylweddol sy’n cael ei brofi gan gymunedau a busnesau ar ddwy ochr y bont."
"Yn ystod y cyfarfod, codwyd pryderon am lefel dealltwriaeth y cyhoedd o’r trefniadau rheoli traffig ac am effeithiolrwydd cyfathrebu yn gyffredinol, gan gynnwys arwyddion a negeseuon am wyriadau, yn ogystal â’r effaith ar amseroedd teithio pobl leol."
"Roedd cytundeb clir bod yn rhaid gwella pob cyfathrebu, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y gymuned leol yn cael diweddariadau rheolaidd am gynnydd y gwaith sy’n cael ei wneud a’r heriau sy’n parhau."
"Byddaf yn cadw mewn cysylltiad agos â’r uwch dîm rheoli yn UK Highways A55 DBFO Ltd a phartneriaid i wneud yn siŵr bod y camau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod yn cael eu bwrw ymlaen yn gyflym, bod y gwaith yn parhau ar y trywydd iawn, ac y caiff unrhyw faterion newydd eu nodi a’u datrys yn gyflym."


Cynllun rhannu peiriannau i gefnogi ffermwyr
Llwyddiant cynnar i beilot TB mewn gwartheg
A470: beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad
Cyhuddo tri dyn o gyflenwi cetamin
Mona yn paratoi ar gyfer Sioe Môn