Mona yn paratoi ar gyfer Sioe Môn

Friday, 7 August 2026 06:27

By Ystafell Newyddion MônFM

Sioe Môn

Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer Sioe Môn 2026 ym Mona, ger Gwalchmai.

Mae'r trefnwyr yn disgwyl dros 40,000 o ymwelwyr yn ystod y digwyddiad amaethyddol deuddydd ddydd Mawrth 11eg a dydd Mercher 12fed Awst, sy'n cynnwys sioeau da byw a cheffylau, ynghyd â dros 350 o stondinau masnach, bwyd a chrefftau lleol a cherddoriaeth byw.

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur i faes sioe Mona, sydd hefyd wedi cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a chystadleuaeth Cân i Gymru.

Mae rhai o uchafbwyntiau sioe eleni yn cynnwys Pencampwriaethau Cylchdaith Cneifio Oen Cymru ddydd Mercher, Ras Big Bels ddydd Mawrth a rasio Merlod Shetland.

Dyweddod Wyn Williams, cadierydd Cymdeithas Amaethyddol Môn: "Mae Sioe Môn wedi bod wrth galon amaethyddiaeth yr ynys ers cenedlaethau, ac mae’n parhau i fod yn gyfle i ddathlu ein diwydiant, arddangos y safon uchel o dda byw, crefftwaith a chynnyrch lleol, ac i ddod â’r gymuned ynghyd."

"Er gwaethaf yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant amaethyddol, mae’n braf gweld y gefnogaeth barhaus gan ein haelodau, noddwyr, arddangoswyr a chystadleuwyr."

"Mae’r ymroddiad a’r angerdd sy’n cael eu rhoi i baratoi ar gyfer y sioe bob blwyddyn yn gwneud Sioe Môn yn ddigwyddiad arbennig, ac mae’n bleser gweld cystadleuwyr yn teithio o bob cwr o Gymru a thu hwnt i gystadlu yma ar Ynys Môn."

Bydd sioe eleni yn cynnwys nifer record o 1,212 o geisiadau yn adran y defaid ynghyd â 600 o geffylau, 183 o wartheg a 54 o foch, yn ogystal â mwy na mil o geisiadau ar gyfer garddwriaeth, crefftau a choginio.

Un o'r atyniadau newydd yw pabell synhwyraidd bwrpasol - syniad llysgennad Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn eleni, Mared Edwards.

Dywedodd cyn-lywydd yr Urdd: "Mae’r sioe flynyddol yn fwy na digwyddiad amaethyddol – mae’n ddathliad o’n hunaniaeth."

"Mae’n gyfle i arddangos gwaith caled ffermwyr, crefftwyr, busnesau lleol ac ieuenctid talentog. Mae’n fan cyfarfod i hen gyfeillion ac yn fan croeso i genedlaethau newydd."

"Ac mae’n bleser cael bod yn rhan o’r traddodiad hwn, gan weithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr sy’n rhoi cymaint o’u hamser a’u hegni."

Bydd Cyngor Ynys Môn yn cefnogi'r sioe unwaith eto gyda'i bafiliwn (Stondin 18) gan ganolbwyntio ar gynllun pum mlynedd yr awdurdod lleol, sy'n rhedeg tan 2028.

Bydd MônFM hefyd wedi'i leoli ar stondin y cyngor drwy gydol y sioe, tra bydd y gwasanaeth hamdden, MônActif, yn cynnal gweithgareddau yn y prif bentref chwaraeon.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Gary Pritchard: "Mae Sioe Môn yn un o ddigwyddiadau pwysicaf calendr yr ynys ac yn rhoi cyfle gwych i ni ymgysylltu'n uniongyrchol â thrigolion, busnesau ac ymwelwyr."

"Bydd ystod eang o wasanaethau yn ein pabell gaiff er mwyn amlygu'r gwaith sy'n cefnogi'r amcanion pwysig hynny yng Nghynllun y Cyngor."

"Boed hynny drwy gefnogi unigolion a theuluoedd, hyrwyddo cyfleoedd i bobl ifanc, cryfhau ein heconomi neu helpu cymunedau i ymateb i heriau'r dyfodol, mae ein gwasanaethau'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ledled yr ynys."

Bydd nifer o wasanaethau yn cael eu cynrychioli yn y babell, gan gynnwys gwasanaethau sy'n cefnogi plant a theuluoedd, diwylliant a dysgu, gwasanaethau cwsmeriaid, datblygu economaidd, gwaith amgylcheddol a hinsawdd, a datblygu'r gweithlu.

Dywed y cyngor mai ei weledigaeth yw creu ynys "yn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu".

Ychwanegodd Dylan J Williams, y prif weithredwr: "Rydym yn falch unwaith eto o gefnogi a mynychu Sioe Môn, digwyddiad sy'n dathlu cymunedau'r Ynys, ei threftadaeth amaethyddol a'i chryfderau economaidd."

"Mae'r sioe yn gyfle rhagorol i siarad â phobl wyneb yn wyneb, gwrando ar eu barn a rhannu mwy am y gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y cyngor. Byddwn yn annog pawb sy'n ymweld â'r Sioe i alw heibio a chwrdd â'n staff ar stondin D18."

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Sioe Môn.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Nia Davies

    6:00pm - 8:00pm

    Sgwrs a cherddoriaeth hamddenol yng nghwmni Nia ar nos Sul.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'