Mae dyn wedi cael ei garcharu am chwe mis ar ôl cario cyllell yng nghanol tref Llangefni.
Fis diwethaf, mi wnaeth aelodau o'r gymuned riportio eu pryderon am ddyn a welwyd gyda chyllell.
Daeth swyddogion yr heddlu o hyd i'r dyn ger maes parcio ar Stryd y Felin, ac fe'i saethwyd gyda gwn 'taser' wrth iddo ffoi oddi wrth swyddogion.
Cafodd Aaron Dean, 31 oed, o Fodffordd, ei gyhuddo wedyn o feddu ar gyllell mewn man cyhoeddus a'i garcharu am 26 wythnos yn llys ynadon Llandudno.
Digwyddodd hyn yn ystod Ymgyrch Sceptre, yr wythnos genedlaethol o weithredu i fynd i'r afael â throseddau cyllyll.
Dywedodd yr Arolygydd Dosbarth Wayne Francis o Heddlu Gogledd Cymru: "Hoffwn ddiolch i'r rhai a riportiodd eu pryderon am y dyn hwn."
"Byddwn yn ymateb ar unwaith i adroddiadau am unrhyw un sydd yn meddu ar arfau yng nghanol ein trefi a'n cymunedau."
"Nid yw cario cyllell yn eich amddiffyn chi - mae'n eich rhoi chi a'r rhai o'ch cwmpas mewn mwy o berygl o niwed."
"Rwy'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am unigolion sydd â chyllyll neu arfau eraill i riportio hyn i'r heddlu neu yn ddienw trwy Crimestoppers."


Carcharu dyn am dreisio dynes tra roedd hi'n cysgu
Gwobr genedlaethol am fenter realiti rhithwir
Dynes ifanc wedi marw yng Ngŵyl Tonnau
Gweinidog yn agor estyniad Ysgol y Graig
Ymgeisydd annibynnol yn ennill isetholiad Llanrug