Hwb hydrogen Caergybi yn "symud ymlaen"

Wednesday, 9 September 2026 11:18

By Ystafell Newyddion MônFM

Uchelgais Gogledd Cymru

Mae cynlluniau ar gyfer canolfan ynni glân ar gyrion Caergybi wedi arwain at gam nesaf.

Mae achos busnes amlinellol wedi'i gymeradwyo ar gyfer y prosiect £22 miliwn, a fydd yn gweld safle cynhyrchu hydrogen yn cael ei ddatblygu ym Mhort Cybi.

Yn ôl Menter Môn, sy'n arwain y cynllun, bydd yn helpu busnesau i gael mynediad at gyflenwad lleol o ynni carbon isel wrth i'r galw ddatblygu. 

Mae caniatâd cynllunio eisoes wedi'i roi ond mae'r cynllun yn edrych i sicrhau cyllid gan gan Gynllun Twf Gogledd Cymru i symud ymlaen.

Dyweddod arweinydd Cyngor Môn, Gary Prtichard, sy'n arwain y rhaglen carbon isel Uchelgais Gogledd Cymru: "Mae cymeradwyo'r achos busnes amlinellol yn garreg filltir bwysig ar gyfer Hwb Hydrogen Caergybi ac yn dangos hyder Uchelgais Gogledd Cymru yn y rôl sydd gan y prosiect i'w chwarae wrth gefnogi'r trosglwyddiad at economi carbon isel."

"Mae hyn yn ymwneud â mwy na chynhyrchu hydrogen gwyrdd. Mae'n ymwneud â chreu'r seilwaith, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i gefnogi busnesau, denu buddsoddiad a helpu i adeiladu sector ynni glân newydd yma."

Dros yr oes weithredol o 15 mlynedd sydd dan sylw, mae disgwyl i hwb gynhyrchu bron i 9,000 tunnell o hydrogen gwyrdd a chyflawni oddeutu 80,000 tunnell o arbedion carbon

Mae Hynamics, rhan o'r grŵp ynni EDF, yn darparu £13.6 miliwn ar gyfer y cynllun, ochr yn ochr â thua £8.6 miliwn o fuddsoddiad cyhoeddus.

Os bydd y prosiectau'n cael eu cymeradwyo, byddant yn canolbwyntio ar sectorau sy'n anoddach i'w datgarboneiddio, gan gynnwys trafnidiaeth, logisteg, adeiladwaith, gweithrediadau porthladd a digwyddiadau.

Ychwanegodd Dafydd Gruffydd, rheolwr gyfarwyddwr Menter Môn: "Mae Caergybi yn lleoliad strategol pwysig  ar gyfer datblygu hydrogen gwyrdd yng Nghymru gyda chysylltiadau trafnidiaeth a chysylltiadau grid cyfredol."

"Ein gweledigaeth yma ym Menter Môn yw datgloi potensial ein pobl ac adnoddau i sicrhau dyfodol ein cymunedau."

"Rydym yn ceisio darparu Hwb Hydrogen Caergybi fel rhan o'n portffolio ynni cynyddol, sy'n cael ei yrru gan weledigaeth i greu swyddi lleol, hybu economi'r rhanbarth a sicrhau bod y trosglwyddiad at ynni glân yn darparu budd hirdymor i'n cymunedau."

"Rydym yn ddiolchgar iawn i'n partneriaid ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n partneriaid i ddarparu a symud y prosiect pwysig hwn yn ei flaen."

Bydd yr achos busnes llawn ar gyfer y prosiect yn cael ei ddatblygu i'w ystyried yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ynghyd â gwaith i sicrhau trefniadau masnachol.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Zowie Williams

    4:00pm - 7:00pm

    Zowie sydd yma tan 7 ar MônFM. Digon o diwns a digon o hwyl!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'