Bydd gwaith rhagarweiniol i hwyluso'r atgtweiriad parhaol i'r broblem ddiweddar gyda thrawstiau croes ar Bont Menai yn dechrau ddydd Iau.
Cafodd y bont ei chau ar frys i bob traffig y mis diwethaf, wedi i archwiliad ddarganfod bod angen gosod bolltau newydd ar drawstiau'r bont.
Disgwylir i'r gwaith bara pum niwrnod o ddydd Iau (27 Tachwedd) tan ddydd Mercher 3 Rhagfyr a bydd yn golygu cau un lôn ar y bont, ar ddyddiau'r wythnos yn unig, rhwng 7.3yb a 5yp.
Ni fydd mesurau rheoli traffig mewn grym ar y penwythnos.
Dyweddod llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd amserlenni ar gyfer gosod yr atgyweiriad parhaol yn cael eu cyhoeddi ar ôl iddynt gael eu cadarnhau gyda UK Highways A55 Ltd."
"Diolch am eich amynedd wrth i'r gwaith hanfodol hwn gael ei wneud."


Porthaethwy: enwi'r dyn a fu farw ar ôl tân mewn tŷ
Cyhoeddi Llywyddion Anrhydeddus Urdd 2026
Pont y Borth yn cau ar gyfer archwiliad
Papur pleidleisio sain ar gyfer etholiad y Senedd
Myntho: beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad