Mae cynghorwyr lleol wedi condemnio fandaliaid yn dilyn difrod i gae pêl-droed yn Y Fali.
Mae'r heddlu'n apelio am dystion i'r difrod a achoswyd i gaeau pêl-droed yng Nghae Mwd rhwng nos Sadwrn a bore dydd Sul diwethaf.
Yn ôl Cyngor Cymuned Y Fali, mae offer sy'n perthyn i'r clwb pêl-droed lleol hefyd wedi'i ddifrodi'n sylweddol dros amser.
Dwyeddod y Cynghorydd Neil Tuck, cadierydd y cyngor: "Rydym wedi buddsoddi arian cyhoeddus sylweddol ym Mharc Mwd ac wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid grant i gyflawni gwelliannau er budd y gymuned gyfan."
"Mae'n siomedig iawn pan fydd cyfleusterau ac offer yn cael eu difrodi yn y modd hwn, gan ei fod yn tanseilio'r gwaith a wnaed i ddarparu lle diogel a chroesawgar i bawb ei fwynhau."

"Os gwelsoch chi unrhyw beth amheus, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth berthnasol am y digwyddiad hwn neu unrhyw un o'r difrod, rhowch wybod amdano i Heddlu Gogledd Cymru a dyfynnwch O020386."
"Byddwn hefyd yn annog yn gryf unrhyw un sy'n gweld unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y parc i gysylltu gyda'r Heddlu ar 101 fel y gellir ei gofnodi a'i ddilyn i fyny'n briodol."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod O020386.


Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir
Carcharu dyn wedi ymosodiad rhywiol ar ferch