Dyn yn euog o badellu am aur yn anghyfreithlon

Tuesday, 15 September 2026 17:51

By Ystafell Newyddion MônFM

CNC

Mae dyn wedi cael dirwy am badellu am aur yn anghyfreithlon mewn coedwig.

Cafodd Brian Wright ei ddal gan swyddogion gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn padellu am aur yn anghyfreithlon ym Mhont Wen ar Afon Wen ger Dolgellau ym mis Hydref 2024, ac eto ym mis Rhagfyr 2024.

Cafodd ei ddedfrydu hefyd am droseddau tebyg ym mis Mai 2022.

Yn ôl CNC, ni chaniateir padellu am aur ar dir a reolir gan yr awdurdod amgylcheddol oherwydd y difrod y gallai hyn ei achosi i ecosystemau afonydd.

Gall y gweithgaredd aflonyddu ar welyau afonydd wrth gloddio’r graean a thynnu mwynau oddi yno, gan effeithio ar gynefinoedd y mae bywyd gwyllt yn ddibynnol arnynt.

Er nad oes llawer o bobl yn ymwybodol o hynny, gall padellu am aur arwain at erlyniad a dedfrydu pan fo perygl o aflonyddu ar bysgod sy’n silio ac o effeithio ar gynefinoedd afonydd.

Yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun, cafwyd Mr Wright yn euog a'i ddedfrydu i dalu dirwyon o £400 a £1,500, a chostau o £2,800.

Dyweddod Richard Berry, arweinydd tîm reholaeth tir CNC yn y Gogledd Orllewin: "Mae Coed y Brenin yn amgylchedd naturiol gwarchodedig a gwerthfawr, a gall gweithgareddau fel padellu anghyfreithlon am aur achosi difrod sylweddol i gynefinoedd afonydd ac i fywyd gwyllt."

"Rydym yn gweithio'n galed i amddiffyn yr ardaloedd hyn a byddwn yn gweithredu pan fydd troseddau yn cael eu canfod."

"Dylai'r achos hwn fod yn rhybudd nad yw padellu am aur yn anghyfreithlon yn cael ei ganiatáu ar dir a reolir gan CNC a gallai’r rhai sy'n anwybyddu'r rheolau wynebu erlyniad."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Gareth Joy

    2:00pm - 4:00pm

    Gareth sits in on the afternoon shift with lots of music and a few musings.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'