Pwysau digartrefedd yng Ngwynedd yw pwnc cyfres ddogfen deledu newydd.
Mae 'Am Le i Fyw', sy'n dechrau ar S4C nos Fawrth, yn dilyn swyddogion Cyngor Gwynedd a'r rhai sy'n chwilio am gymorth a chartrefi newydd.
Cafodd y gyfres, a gynhyrchwyd gan y cwmni annibynnol Darlun o Y Felinheli, ei ffilmio dros chwe mis ac mae'n mynd y tu ôl i'r llenni yng ngwasanaeth digartrefedd Cyngor Gwynedd.
Mae’r bennod gyntaf yn dilyn David, 62, sydd wedi treulio dros bedwar mis mewn llety dros dro ar ôl tor-perthynas. Er bod ganddo fflat, mae’n cael ei ystyried yn ddigartref oherwydd nad oes ganddo denantiaeth parhaol.
Ac yntau wedi dioddef strôc, mae David yn siarad am yr effaith y mae’r ansicrwydd wedi’i gael ar ei les corfforol a meddyliol.
Un arall sy’n ymddangos yn y bennod gyntaf yw Mr Miller, 77, sydd wedi bod yn byw mewn carafán ers 2012. Wrth i bryderon am ei iechyd gynyddu, mae’r tîm yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau lleol i'w helpu i ddod o hyd i gartref parhaol.
Bydd y gyfres yn dilyn staff y gwasanaeth a’r rhai sy’n chwilio am help, gan gynnig golwg ar realiti digartrefedd a’r heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n gweithio i’w atal.
Dywed Cyngor Gwynedd ei fod yn gwario tua £6 miliwn y flwyddyn ar lety brys, gyda chost cyfartalog y noson am lety oddeutu £81.
Mae’r rhaglen hefyd yn tynnu sylw at effaith digartrefedd ar deuluoedd, wrth i’r bennod gyntaf ddilyn y tîm yn prynu anrhegion Nadolig i 72 o blant sy’n byw mewn llety dros dro ledled Gwynedd.
Mae Colleen Pritchard, rheolwr gwasanaeth digartrefedd Cyngor Gwynedd, yn dweud er gwaethaf yr heriau, mae hi a’i thîm yn credu bod y gwasanaeth yn medru gwneud gwahaniaeth.
Meddai: "Dydi o ddim yn faes hawdd i weithio ynddo fo. Ond mi ydyn ni’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl. Fyswn i’n mynd mor bell a dweud ein bod ni’n newid bywydau pobl a safio bywydau pobl."
Bydd 'Am Le i Fyw' yn cychwyn am 9yh nos Fawrth (8 Medi) ar S4C ac ar gael hefyd ar S4C Clic a BBC iPlayer. Mae isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael.


Doreen Morris: rhyddhau pedwar dan ymchwiliad
Prif Weinidog yn cofio ei fam ddiweddar
Benllech: arestio tri ar ôl llosgi bwriadol
Ymosodiad ar mamog yn Ninas Dinlle
Comisiynydd yr Heddlu yn cynnal cymorthfeydd ym Menllech