Doreen Morris: rhyddhau pedwar dan ymchwiliad

Thursday, 10 September 2026 13:27

By Ystafell Newyddion MônFM

Llun teulu (Heddlu Gogledd Cymru)

Mae pedwar o bobl a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth Doreen Morris wedi cael eu rhyddhau o dan ymchwiliad.

Cafodd tair dynes ac un dyn eu harestio yr wythnos diwethaf ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn dilyn adolygiad o'r achos gan dditectifs.

Cafwyd hyd i gorff Mrs Morris, 64 oed, yn ei byngalo wedi'i ddinistrio gan dân yng nghyffiniau Caergybi ym mis Mawrth 1994.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, cafodd y pedwar o bobl eu harestio a'u rhyddhau ddydd Mercher diwethaf (2 Medi).

Mi ganfuwyd Joseph Carl Westbury yn ddieuog o’i llofruddiaeth ym 1995, ac mi wadodd dorri i fewn i’w chartref ar Lôn y Felin. Mi laddodd ei hun ym mis Mai 2016.

Yn 2023, cofnodwyd rheithfarn o ladd anghyfreithlon gan reithgor mewn cwest yng Nghaernarfon. Cafodd Mrs Morris ei thrywanu â fforc ar ôl iddi ddod o hyd i ladron yn ei chartref.

Dywedodd ditectifs fod tystiolaeth newydd a ddaeth i'r amlwg o adolygiad achos mawr, a ddechreuodd yn 2024, wedi darparu sail ar gyfer yr arestiadau.

Mae teulu Mrs Morris wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ac mae'r ymchwiliad yn parhau.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, gan ddefnyddio Ymgyrch Epose fel cyfeirnod.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    2:00pm - 4:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'