Mae heddlu yn annog trigolion roi gwybod am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Llangefni.
Mae patrolau hefyd wedi cynyddu yn yr ardal mewn pryderon a godwyd yn lleol drwy cyfryngau cymdeithasol.
Ond yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, nid yw rhai digwyddiadau'n cael eu hadrodd pan maen nhw'n digwydd ac mae angen i aelodau o'r gymuned riportio digwyddiadau i ni'n uniongyrchol er mwyn i unrhyw gamau gael eu cymryd.
Mae'r heddlu hefyd yn gweithio gyda Chyngor Ynys Môn i wneud cais am Orchmynion Ymddygiad Troseddol (CBO) a Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) i atal digwyddiadau gan gynnwys yfed ar y stryd a baw cŵn.
Dywedodd Rhingyll Matt Bentley o Heddlu Gogledd Cymru: "'Da ni'n ymwybodol o bryderon sy'n cael eu codi ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol lleol ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Llangefni a'r cylch."
"'Da ni eisiau i bawb deimlo'n saff byw, gweithio ac ymweld â'r ardal a 'da ni'n gweithio'n agos hefo partneriaid er mwyn ymateb i'r pryderon hyn."
"Yn anffodus, dydyn ni ddim yn derbyn adroddiadau o'r digwyddiadau hyn pan maen nhw'n digwydd. Heb y wybodaeth hon gan y cyhoedd, mae'n anodd gweithredu yn erbyn y rhai sy'n achosi problemau yn yr ardal leol."
"Byddwn i'n annog aelodau o'r cyhoedd riportio pob achos, hyd yn oed rhai mân, o ymddygiad gwrthgymdeithasol i'r cyngor neu'r heddlu, fel bod gynnon ni adlewyrchiad go iawn o'r problemau a'r dystiolaeth er mwyn gwneud cais am orchmynion gwarchod."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Llangefni, cysylltwch â Chyngor Môn ar eu gwefan neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw.


Ysgoloriaeth i artist ifanc o Ddeiniolen
Niwbwrch: arestio dyn mewn cyrch cyffuriau
Plaid yn cadw sedd Bro’r Llynnoedd
Tystiolaeth newydd i amddiffyn bywyd gwyllt morol
Cyhuddo dyn o ladrad ym Mangor