Mae dyn o Bwllheli wedi cael ei gyhuddo yn dilyn gwrthdaro dros nos gyda heddlu arfog.
Fe wnaeth swyddogion arbennigol, gan gynnwys drylliau tanio, tradfodwyr, a'r uned ddronau ymateb a dal eiddo yn ardal Afonwen tua 5yp dydd Sadwrn diwethaf, yn dilyn adroddiadau am fygythiadau.
Daeth y digwyddiad i ben oddeutu 6yb bore Sul ar ôl i ddyn a oedd tu mewn i’r cyfeiriad gael ei ddal yn saff, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.
Cafodd Philip Blakemore, o Y Ffôr, Pwllheli, ei gyhuddo o aflonyddu heb drais, torri gorchymyn gwarchod cam-drin domestig, difrod troseddol, ac anfon cyfathrebiadau a oedd yn hynod sarhaus.
Yn llys ynadon Llandudno, cafodd Blakemore ei gadw yn y ddalfa tan ddydd Iau.


Carcharu 'ysglyfaethwr' am gam-drin hanesyddol
Archwiliad arall ar Bont y Borth
Y Cynghorydd Ken Taylor wedi marw
Adnodd newydd i gefnogi teithio diogel ar gyfer ysgolion
Rhybudd traffig cyn Eisteddfod yr Urdd