Mae dros £400,000 wedi cael ei ddarparu i wella cyfleusterau cymunedol yn nhrefi a phentrefi Gwynedd.
Mae Cronfa Cefnogi Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned Gwynedd wedi ail-agor ar gyfer 2026 yn dilyn cynllun peilot llynedd.
Mae’r gronfa wedi’i sefydlu er mwyn galluogi cymunedau i wella edrychiad, cyfleusterau a bwrlwm trefi a phentrefi ar draws y sir trwy welliannau bach, effaith uchel.
Gall gymunedau ymgeisio am rhwng £5,500 a hyd at £8,500 y gymuned ar gyfer gwella mannau cyhoeddus a chymunedol neu gynlluniau adfywio ar gyfer canol trefi a'r stryd mawr.
Mae ffocws y gronfa eleni ar gynlluniau cyfalaf sy’n cynnig cyfle pellach i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith cymunedol. Rhai enghreifftiau posib fyddai gwelliannau i fannau chwarae, gwella hygyrchedd, a harddu mannau cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, aelod y cabinet dros yr economi a chymuned: "Mae’r gronfa yma wedi ei greu er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i drigolion a chymunedau Gwynedd."
"Mae’r adborth rydym wedi ei dderbyn gan gymunedau i brosiectau llynedd wedi bod yn bositif iawn, gyda llawer yn dweud na fyddent wedi gallu gwireddu eu cynlluniau heb y gefnogaeth ariannol yma."
"Rydym yn edrych ymlaen i gyd-weithio eto eleni gyda’r cynghorau dinas, tref a chymuned i gyflawni rhagor o welliannau sydd wedi eu siapio gan ddymuniadau’r gymuned."
"Mae’r gronfa yn agored i holl gynghorau lleol yng Ngwynedd. Dwi’n gobeithio’n fawr y bydd pob ardal yn gweld y manteision ac yn elwa ar y cyfle hwn.”
Er mwyn sicrhau bod y prosiectau’n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau trigolion lleol mae’r cynghorau tref a chymuned yn cael eu hannog i drafod gyda’r gymuned cyn cyflwyno ceisiadau.
Mae swyddogion cefnogi dymunedau hefyd ar gael i ddarparu cymorth ar gynlluniau posibl trwy gydol y cyfnod ymgeisio gan e-bost: cefnogicymunedau@gwynedd.llyw.cymru
Bydd y gronfa yn cau i geisiadau ar ddydd Llun 15 Mehefin.


A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir
Carcharu dyn wedi ymosodiad rhywiol ar ferch
A55: cyhuddo dyn ar ôl gyrru y ffordd anghywir
Ffair yn dathlu treftadaeth Ynys Cybi
Tacsi wedi'i ddwyn a'i yrru ar ochr anghywir yr A55