Carcharu dyn o Gaergybi ar ôl cyrch cyffuriau

Thursday, 23 July 2026 00:20

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn o Gaerygbi a guddiod dros £3,000 o gyffuriau Dosbarth A mewn bag wedi cael ei garcharu.

Roedd Adam Bowen, 42 oed, wedi cyfaddef yn flaenorol o fod â cocên ac MDMA yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi.

Ym mis Chwefror 2024, cynhaliodd swyddogion warant yng nghyfeiriad Bowen ar Clos Sant Seiriol lle darganfuwyd dros £1500 mewn arian parod.

Chwiliodd swyddogion gar Bowen a dod o hyd i fag yn cynnwys swm sylweddol o gocên ac MDMA gydag amcangyfrif gwerth stryd o dros £3,300.

Atafaelwyd ffôn Bowen hefyd a oedd yn cynnwys tystiolaeth ei fod yn gwerthu cyffuriau rhwng Awst 2023 a Chwefror 2024.

Plediodd yn euog hefyd i ymwneud â chyflenwi cocên ac ecstasi a meddu ar eiddo troseddol.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun, cafodd Bowen ei ddedfrydu i gyfanswm o bum mlynedd a phedwar mis yn y carchar.

Dywedodd Rhingyll Cynorthwyol Ardal Matt Bentley o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'r ddedfryd hon yn ganlyniad da i gymunedau Ynys Môn."

"Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd y rhai sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn ddi-baid a byddwn yn gweithredu ar unrhyw wybodaeth a dderbynnir gan bobl yr ardal."

"Mae troseddwyr sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn achosi niwed dinistriol i bobl sy'n agored i niwed er eu budd ariannol eu hunain."

Yr wythnos diwethaf, cafodd dyn arall o Gaergybi ei garcharu am bum mlynedd am droseddau delio cyffuriau.

Cafodd John Welsh ei ddal yn cuddio cocên yn ei sanau ar ôl iddo gael ei weld yn cyflenwi cyffuriau i ddyn arall ger ei gartref ar Ffordd Kingsland.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Sarah Wynn Griffiths

    11:00pm - Midnight

    Llwyth o gerddoriaeth newydd a sgyrsiau gyda rhai o'n hoff artistiaid ni.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'