Mae dyn 31 oed o Borthaethwy wedi cael ei gyhuddo o werthu cyffuriau.
Cafodd Aaron Maher, o Ffordd Tysilio, ei arestio ddydd Mercher yn dilyn ymchwiliad gan swyddogion cymdogaeth ym Môn.
Mi gafodd ei gyhuddo o ymwneud â chyflenwi canabis rhwng mis Mehefin a mis Awst eleni.
Ym Llys Ynadon Llandudno ddydd Iau, cafodd Maher ei gadw yn y ddalfa am fis.
Bydd ym ymddangos gerbron barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun 30 Tachwedd.
Dywedodd Cwnstabl Jamie McDaid o Heddlu Gogledd Cymru: "Mi hoffwn i ddiolch i’r gymuned am eu help parhaus drwy riportio eu pryderon yn eu hardal leol."
"’Da ni’n annog preswylwyr i barhau i riportio problemau i ni, yn uniongyrchol neu drwy’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw."
"’Da ni’n parhau bod yn ymroddedig i sicrhau bod Ynys Môn yn parhau i fod yn lle digroeso i droseddwyr weithredu."


Diwedd cyfnod i siop Lamia ym Modedern
Ymddeol crys rygbi i gofio Jack
Cerbydau wedi'u hatafaelu oddi ar yrrwr heb yswiriant
Llyfrgell Caernarfon yn symud dros dro
M-SParc yn sicrhau hwb ariannol yn y Gyllideb