Carcharu dyn o Bentraeth ar ôl perthynas gamdriniol

Monday, 6 July 2026 18:43

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn o Bentraeth wneath ymosod ar ei gyn-bartner a bygwth ei llosgi hi wedi cael ei garcharu.

Plediodd Jason Thomas yn euog i ymoosd, ymddygiad rheolaethol a gorfodol ac aflonyddu gan achosi ofn trais yn barod.

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Thomas, 36 oed, wedi ceisio rheoli ei bartner yn ystod eu perthynas gamdriniol dros bedair blynedd.

Mi roddodd declyn tracio yn ei char heb iddi wybod, ei chyhuddo hi ar gam ei bod hi’n cael perthynas efo rhywun arall, edrych drwy ei ffôn heb ei chaniatâd a’i galw hi’n enwau cas.

Ym mis Mehefin 2025, mi ddaeth eu perthynas i ben, ond mi barhaodd Thomas aflonyddu ami hi. Mi wnaeth hi atal ei rif ffôn, ond mi barhaodd o gysylltu efo hi.

Dau fis ar ôl diwedd y berthynas, mi ymosododd o arni hi drwy ei dyrnu hi sawl gwaith yn ei hwyneb a’i chorff, gan achosi cleisio poenus.

Yna, mi anfonodd lun can petrol ati hi a bygwth ei llosgi hi, gan achosi iddi hi ofni am ei bywyd hi.

Ddydd Gwener diwethaf, cafodd Thomas ei ddedfrydu i dair blynedd a phedwar mis yn y carchar.

Mi dderbyniodd hefyd Orchymyn Gwarchod Cam-drin Domestig am ddeng mlynedd, sy’n ei wahardd rhag cysylltu efo’r dioddefwr.

Dywedodd Ditectif Arolygydd Chris Burrow o Heddlu Gogledd Cymru: "Mi gafodd ymddygiad Thomas tuag at ei gyn gymar effaith drychinebus ar ei iechyd meddwl a’i lles hi."

"Ni ddylai unrhyw un byth deimlo’n anniogel yn eu cartref nhw, yn enwedig wrth law rhywun sy’n dewis defnyddio trais ac ofn."

"Dwi’n canmol y dioddefwr am ei dewrder hi wrth ddod atom ni, a dwi’n gobeithio nad ydy hi rŵan yn byw mewn ofn ei fod o’n mynd i achosi niwed iddi hi a’i theulu hi."

"Yn unol â’n blaenoriaethau heddlu ni, ‘da ni’n gwbl ymroddgar gwarchod dioddefwyr cam-drin domestig a dod â throseddwyr o flaen eu gwell."

"’Da ni’n annog unrhyw un sy’n dioddef cam-drin, neu’n pryderu am les rhywun arall, i gysylltu efo ni. Mi wnawn ni wrando, mi wnawn ni helpu ac mi wnawn ni weithredu."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Miwsig MônFM

    6:00pm - 7:00pm

    Y gerddoriaeth orau ar MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'