Mae dyn o Amlwch wedi cael ei garcharu ar ôl i dros £13,000 o gyffuriau gael eu darganfod yn ei gar.
Pleidiodd Ricky Pritchard, 31 oed, yn euog i feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi sylweddau Dosbarth A a Dosbarth B a chaffael eiddo troseddol.
Ar 27 Rhagfyr, stopiodd swyddogion yr heddlu gar Ford Mondeo oedd yn cael ei yrru gan Pritchard ger Stad Ddiwydiannol Amlwch.
Ar ôl chwilio ei gar, darganfu swyddogion swm sylweddol o gocên a resin canabis.
Cynhaliwyd chwiliadau pellach mewn cynhwysydd storio sy'n perthyn i Pritchard a arweiniodd at ddarganfod swm mawr o arian parod, cocên, nifer o dabledi ac eitemau eraill sy'n awgrymu cyflenwad cyffuriau.
Yn gyffredinol, amcangyfrifwyd bod gan y cyffuriau a atafaelwyd werth stryd o tua £13,600.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, cafodd Pritchard ei ddedfrydu i 16 mis yn y carchar.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Wayne Francis o Heddlu Gogledd Cymru: "Da ni'n parhau i gyflawni ein hymrwymiad i dargedu'r rhai sy'n ceisio dod â chyffuriau i Ynys Môn."
"Mae mynd ati i stopio a chwilio am unigolion yn un ffordd 'da ni'n targedu cyflenwi cyffuriau ar yr ynys er mwyn gwarchod aelodau bregus o'r gymuned."
"Os oes gynnoch chi unrhyw bryderon ynglŷn â chyflenwi cyffuriau yn eich ardal chi, gallwch chi wneud adroddiad dienw trwy Crimestoppers."


A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir
Carcharu dyn wedi ymosodiad rhywiol ar ferch
A55: cyhuddo dyn ar ôl gyrru y ffordd anghywir
Ffair yn dathlu treftadaeth Ynys Cybi
Tacsi wedi'i ddwyn a'i yrru ar ochr anghywir yr A55