Helipad dwbl yn agor yn Ysbyty Gwynedd

Monday, 23 November 2026 at 10:43

By Ystafell Newyddion MônFM

HELP Appeal

Mae'r helipad dwbl cyntaf yn y DU wedi'i agor yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Mae gwaith wedi'i gwblhau ar y cyfleuster gwerth £2.3 miliwn, a fydd yn cael ei ddefnyddio gan Ambiwlans Awyr Cymru a hofrenyddion chwilio ac achub EF.

Mae'n disodli ac yn uwchraddio helipad blaenorol yr ysbyty, a adeiladwyd ym 1997.

Yn ôl y gwasanaethau brys ac awdurdodau iechyd, bydd y datblygiad newydd yn gwella gofal brys i gleifion drwy leihau oedi a gwella ymateb yr ysbyty i ddigwyddiadau mawr ac argyfyngau lle mae amser yn hollbwysig.

Dywedodd Dr Pete Williams, arweinydd clinigol yn adran achosion brys Ysbyty Gwynedd: "Rydym yn gweld nifer cynyddol o gleifion yn cyrraedd, neu’n cael eu trosglwyddo, mewn hofrenyddion, ac mae achlysuron lle mae angen i fwy nag un hofrennydd gael mynediad at yr ysbyty ar yr un pryd."

"Er bod sefyllfaoedd o'r fath yn gymharol anghyffredin, gallant arwain at oedi ar adegau pan fo pob munud yn cyfrif."

"Bydd cael dau helipad gwbl weithredol yn dileu'r risg y bydd rhaid i un hofrennydd aros i un arall adael, gan wella effeithlonrwydd a gan ddarparu gwydnwch yn ystod cyfnodau o alw uchel neu ddigwyddiadau mawr."

"Yn y pen draw, nod y datblygiad hwn yw gwella gofal cleifion a sicrhau y gall pobl gael mynediad at y driniaeth gywir mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl."

"Er na fydd y rhan fwyaf o bobl angen defnyddio’r cyfleusterau hyn, maent yn darparu rhwyd ​​ddiogelwch hanfodol i'r rhai sy'n wynebu'r argyfyngau meddygol mwyaf difrifol. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig a fydd yn gwella gofal brys ledled Gogledd Cymru am flynyddoedd lawer i ddod."

Mae dros £1.5 miliwn wedi’i godi gan HELP Appeal – yr unig elusen yn y DU sy’n ymroddedig i ariannu helipadiau mewn ysbytai – â Llywodraeth Cymru sydd wedi cyfrannu dros £800,000.

Gan fod rheoliadau hedfan a gofynion gweithredol wedi esblygu dros amser, mae'r cyfleuster newydd wedi'i ddylunio i fodloni safonau’r Awdurdod Hedfan Sifil nawr ac yn y dyfodol, tra hefyd yn cefnogi gwaith yr ambiwlansys awyr a’r hofrenyddion chwilio ac achub.

Meddai Robert Bertram, prif weithredwr HELP Appeal: “Dyma garreg filltir bwysig i Elusen HELP Appeal. Nid yn unig yr ydym yn helpu i ariannu’r helipad dwbl cyntaf mewn ysbyty ym Mhrydain, ond dyma hefyd ein prosiect cyntaf yng Nghymru."

"Mae hyn yn dod â chyfanswm yr helipadiau yr ydym wedi’u hariannu i XX, gan helpu ambiwlansys awyr i gludo cleifion sy’n ddifrifol wael at y gofal arbenigol sydd ei angen arnynt yn gynt."

"Diolch yn fawr iawn i’n cefnogwyr. Mae eu haelioni wedi gwneud y prosiect hwn yn bosibl, a bydd yn helpu cleifion am flynyddoedd lawer i ddod."

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Mabon ap Gwynfor: "Mae'r helipad dwbl newydd yn Ysbyty Gwynedd - y cyntaf o'i fath ym Mhrydain - bellach ar agor a bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganlyniadau i gleifion sy'n ddifrifol wael ac wedi'u hanafu."

"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio ar y prosiect hanfodol hwn ochr yn ochr â'r bwrdd iechyd a HELP Appeal."

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a’r gwasanaethau brys hefyd wedi croesawu’r helipad dwbl, a agorodd am y tro cyntaf wythnos diwethaf.

Dywedodd Paul Andrew, cyfarwyddwr gweithrediadau ar gyfer Cymuned Iechyd Integredig yn y Gorllewin: "Rydym yn hynod ddiolchgar i elusen HELP Appeal am ei chymorth hael a’i hymroddiad i wella gofal brys, yn ogystal ag i Lywodraeth Cymru am ei chyfraniad ariannol. Heb eu cymorth, ni fyddai’r prosiect hanfodol hwn wedi bod yn bosibl."

"Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a fu’n rhan o ddatblygu’r prosiect hwn. Mae’n fuddsoddiad gwych yn nyfodol gofal brys yng Ngogledd Cymru, a bydd o fudd i gleifion, ein timau clinigol a’r gwasanaethau brys am flynyddoedd lawer i ddod."

Ychwanegodd John Craig, y Dirpwy Brif Wyliwr y Glannau: "Mae'r safle newydd hwn yn gwella mynediad i hofrenyddion chwilio ac achub ac yn tynnu sylw at y gwaith agos rhwng sefydliadau gwasanaethau brys ar gyfer cymunedau ledled Gogledd Cymru."

Dywedodd Charlotte Phillips, cyfarwyddwr gweithrediadau hedfan Ambiwlans Awyr Cymru: "Fel elusen, ein ffocws yw darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n poblogaeth, felly mae unrhyw ddatblygiad a all helpu i wella gofal cleifion yn cael ei groesawu'n llwyr."

"Rydym yn diolch i HELP Appeal a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i'r helipad dwbl newydd yn Ysbyty Gwynedd, yn ogystal â phawb yn yr ysbyty a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd wedi helpu i wneud y datblygiad hwn yn bosibl."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'