Mae dyn 28 oed o Abersoch wedi cael ei garcharu am ladrata o siopau.
Cafodd Jack Wellings ei gyhuddo mewn cysylltiad â chwe throsedd o ladrata o siopau a throsedd o ymosod ar weithiwr siop, a ddigwyddodd rhwng yn Abersoch a Pwllheli rhwng dydd Mawrth a dydd Mercher diwethaf.
Yn Llys Ynadon Caernarfon, cafodd ei ddedfrydu i 30 wythnos yn y carchar.
Dywed Heddlu Gogledd Cymru y bydd ei swyddfeydd cymdogaeth yn parhau i yn gweithio gyda phartneriaid lleol "i sicrhau bod unrhyw faterion parhaus sy’n gysylltiedig â Wellings a’i gysylltiadau yn cael eu delio a hwy".
Dyweddod y Arolygydd Ardal, Iwan Jones: "Byddwn yn mynd ar drywydd yn ddi-baid y rhai sy’n credu bod ganddynt yr hawl i ddwyn ac i achosi niwed i aelodau o’n cymunedau."
"Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth y gymuned fanwerthu, a dylai troseddwyr wybod y bydd unrhyw ymgais i ddwyn oddi wrth fanwerthwyr yn Ne Gwynedd yn cael eu trin yn gadarn, a bydd yn cael eich erlid a’ch rhoi gerbron y llysoedd."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Byddwn yn defnyddio’r holl bwerau sydd ar gael o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i ddiogelu ein cymunedau."


Penmon: darganfod corff wrth chwilio am ddynes ar goll
Gwaith yn dechrau ar gampws Ysgol Bontnewydd
Parti traeth yn dod i Langefni
Pont Sanau newydd yn agor
Trydydd groesfan Menai: gweinidogion i ystyried opsiynau