Carcharu dyn ar ôl iddo geisio siarad hefo plant ar-lein

Wednesday, 9 September 2026 13:24

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn o Nant Peris a gyfaddefodd geisio siarad hefo genethod ifanc ar-lein wedi cael ei garcharu.

Dechreuodd Elwyn Jones siarad hefo pwy oedd yn credu oedd yn ferch 13 oed ar cyfryngau cymdeithasol ym mis Tachwedd y llynedd.

Anogodd eu cyfathrebu i fod yn rhywiol ac anfonodd ddelweddau anweddus iddi.

Nid oedd yn gwybod mai proffil ffug oedd hwn, a chafodd ei arestio gan yr heddlu.

Plediodd Jones, 64 oed, yn euog i geisio ymryd rhan mewn cyfathrebu rhywiol hefo plentyn, dosbarthu ffotograff / ffotograff ffug anweddus o blentyn a thri chyhuddiad o wneud ffotograffau / ffotograffau ffug anweddus o blentyn.

Cyfaddefodd hefyd ei fod yn meddu ar bornograffi eithafol ac yn meddu ar ddelwedd waharddedig o blentyn.

Yn Llys y Goron Caernarfon, cafodd ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar, ei wneud yn destun gorchymyn atal niwed rhywiol am 10 mlynedd (SHPO), a bydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.

Dywedodd Ditectif Gwnstabl Megan Roberts o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Jones wedi profi ei fod yn berygl i blant trwy geisio cyfathrebu'n rhywiol hefo geneth ifanc."

"Mae'n ffodus y tro hwn bod hwn yn broffil ffug ac nad oedd unrhyw blentyn yn dioddef ei ymddygiad ysglyfaethus. 'Da ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i warchod pob un ifanc rhag y rhai sy'n ceisio eu cam-drin."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Zowie Williams

    4:00pm - 7:00pm

    Zowie sydd yma tan 7 ar MônFM. Digon o diwns a digon o hwyl!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'