Mae deliwr cyffuriau o Gaergybi a smyglodd gocên yn ei hosan wedi cael ei garcharu am bum mlynedd.
Y mis diwethaf, aeth yr heddlu i gartref John Welsh ar Ffordd Kingsland lle cafodd ei ddarganfod yn cyflenwi cyffuriau i ddyn arall.
Plediodd y dyn 63 oed yn euog i ddau gyhuddiad o feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi cocên, bod ag MDMA, eiddo troseddol a chanabis yn ei feddiant ac ymwneud â chyflenwi cocên.

Ym mis Tachwedd y llynedd, sylwodd swyddogion ar weithgaredd amheus yn dod o dŷ Welsh.
Aethon nhw i mewn a dod o hyd i Welsh gyda chyffuriau Dosbarth A, B a C, gan gynnwys cocên yn ei feddiant.
Darganfuwyd ac atafaelwyd swm mawr o arian parod ac eitemau yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau hefyd.
Dangosodd chwiliadau ar ei ffôn symudol dystiolaeth ei fod wedi bod yn delio cyffuriau.

Ym Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, ccafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar.
Dywedodd PC Reynolds o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn parhau i ddal ac euogfarnu cyflenwyr cyffuriau sy'n achosi niwed i gymuned Ynys Môn."
"Mae'r unigolion hyn yn creu risg a niwed i bobl fregus yn ein cymuned ac yn annog troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol pellach."
"Bydd y camau cadarnhaol hyn yn parhau a dylai'r rhai sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau ystyried eu dewisiadau yn ofalus."


Criwiau'n delio â thân gwyllt Pentrefelin
Carchar i ymosodwr rhyw o Gaernarfon
Gostyngiad mawr mewn pobl ifanc 'Neet'
Burwen: cwest yn agor wedi gwrthdrawiad
Carcharu dyn am dreisio dynes tra roedd hi'n cysgu