Mae dyn wedi cael eu arestio yn dilyn ymosodiad honedig mewn archfarchnad yng Nghaergybi.
Galwyd yr heddlu i faes parcio Lidl ym mharc manwerthu Penrhos tua 6.40yh nos Fercher, yn dilyn adroddiadau am ddigwyddiad yn erbyn y drefn gyhoeddus.
Cafodd dyn lleol 20 oed ei arestio ar amheuaaeth o dri achos o ymosod a thagu bwriadol.
Dywed ditectifs eu bod fod lluniau o’r dioddefwyr wedi cael eu rhannu’n eang ar gyfryngau cymdeithasol.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Byddwch yn ymwybodol fod hwn yn ymchwiliad byw. Fe ellir ei hystyried yn drosedd i unrhyw un gyhoeddi unrhyw beth a all beryglu unrhyw achos troseddol posibl yn y dyfodol."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 26000238767.


Gwobr genedlaethol am fenter realiti rhithwir
Dynes ifanc wedi marw yng Ngŵyl Tonnau
Gweinidog yn agor estyniad Ysgol y Graig
Ymgeisydd annibynnol yn ennill isetholiad Llanrug
Carcharu dyn o Gaergybi am luniau anweddus