Mae llanc wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â dau fyrgleriaeth yn ardal Amlwch.
Mae ditectifs yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiadau ar Ffordd Porth Llechog dros nos rhwng dydd Iau 27ain a dydd Gwener 28ain Tachwedd.
Mae dyn 19 oed wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth hefo amodau tra bod yr heddlu’n parhau â’u hymholiadau.
Dyweddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "‘Da ni’n parhau apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus neu sydd hefo ffilm yn cwmpasu’r ffyrdd o amgylch Ffordd Porth Llechog i gysylltu hefo ni."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 25000973080.
Fel arall, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.


Carchar i ddyn ar ôl torri amodau hysbysiad
Tyler yw brenin Bar Hansh
Caernarfon yn croesawu Gŵyl Cerdd Dant 2026
S4C yn canslo drama Neil Foden
Tân awyr agored yn Rhiwlas