Mae dyn 61 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad beic modur ger Beddgelert.
Cafodd y ffordd rhwng Nantmor a Nant Gwynant ei chau am sawl awr yn dilyn y gwrthdrawiad toc wedi 11.30am fore Iau.
Bu farw'r dyn yn y fan a'r lle, "er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys", yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.
Mae swyddogion o'r Uned Troseddau Ffyrdd yn apelio ar dystion neu unrhyw un sydd â lluniau i ddod ymlaen.
Dywedodd y Rhingyll Simon Hughes: “Mae fy meddyliau gyda theulu'r dyn yn yr amser anodd hwn."
"Rwy'n apelio at unrhyw un a oedd yn gyrru ar hyd ffordd Beddgelert... a welodd neu sydd â lluniau camera dashfwrdd o feic modur BMW GS gyda phlatiau Gwyddelig i ddod ymlaen."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y ddamwain, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod O099561.


Pwllheli: arestio dau mewn cyrch cyffuriau
"Cyfle olaf" i bwrdd Betsi Cadwaladr
Arestio dyn ar ôl dod o hyd i gyffuriau mewn fan
Cynllun pum mlynedd i wella cyfleusterau pêl-droed
Corff dyn wedi'i ganfod yn Eryri