Bangor: cyhuddo dyn o drais domestig

Tuesday, 2 June 2026 at 14:06

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph

Mae dyn 28 oed o Fangor wedi ymddangos yn y llys ar nifer o gyhuddiadau o drais domestig.

Cafodd Mredul Ontor, o Stryd Deiniol, ei arestio yn dilyn aflonyddwch yn y ddinas ddydd Sul.

Mae wedi cael ei gyhuddo o wyth trosedd, gan gynnwys bygythiadau i ladd, ymosodiad drwy ergydio, ymosodiad sy'n achosi niwed corfforol, ymddwyn mewn ffordd oedd yn rheoli neu’n gorfodi rhywun arall, ac ymosodiad ar blentyn er mwyn achosi dioddefaint neu anaf diangen.

Cafodd Ontor ei gadw yn y ddalfa pan ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.

Bydd yn ymddangos gerbron barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener 3 Gorffennaf.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Dai Willz

    2:00pm - 4:00pm

    Dai Willz sydd yma ar MônFM yn chwarae llwyth o diwns gwych!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'