Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o affräe yn dilyn aflonyddwch ar stad yng Nghaernarfon.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad trefn gyhoeddus yn ardal Maes Hyfryd tua 2.30yp prynhawn dydd Mawrth.
Mae’r sawl sydd dan amheuaeth yn parhau yn nalfa’r heddlu. Cafodd ei arestio hefyd ar amheuaeth o fod ag erthygl llafnog yn ei feddiant.
Mae ditectifs yn apelio ar unrhyw dystion i ddod ymlaen.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, PC Fflur Hughes: "Mi hoffwn i siarad efo unrhyw un oedd yn cerdded neu’n gyrru, a welodd y digwyddiad o bosib, i ddod atom ni."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr aflonyddwch, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddefnyddio’r rhif cyfeirnod 24000880779.


Gŵyl Arall 2026 yn fwy 'uchelgeisiol'
Cyllid ar gyfer tri phrosiect arfordirol
A5: beiciwr wedi'i anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad
Plant Môn yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr
Treth twristiaeth: ymgynghoriad yn parhau