Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yn dilyn cyfres o fyrgleriaethau a lladradau cerbydau ym Mangor.
Mae ditectifs yn parhau i ymchwilio i nifer o ddigwyddiadau yn ardaloedd Hirael a Maesgeirchen ddydd Sadwrn a dydd Sul diwethaf.
Mae'r ddau ddyn o'r tu allan i Ogledd Cymru.
Dyweddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mae’r dynion wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth hefo’r amod i beidio dod i ogledd Cymru tra mae ein hymchwiliadau’n parhau."
Mae patrolau wedi cynyddu yn y ddwy ardal ac mae'r heddlu wedi annog trigolion lleol i sicrhau bod eu cartrefi'n ddiogel.


A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir
Carcharu dyn wedi ymosodiad rhywiol ar ferch
Ffair yn dathlu treftadaeth Ynys Cybi
Tacsi wedi'i ddwyn a'i yrru ar ochr anghywir yr A55