Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A470 ger Blaenau Ffestiniog.
Cafodd yr gwasanethau brys eu galw i gwrthdrawiad rhwng beic modur a char ym Mwlch y Gorddinan toc wedi 1.30yp prynhawn Sul (9 Awst),
Bu farw dyn 58 oed yn y fan a'r lle er gwaethaf ymdrechion parafeddygon - mae ei deulu’n cael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt arbenigol ac mae crwner Gogledd Orllewin Cymru wedi cael gwybod.
Cafodd y ffordd ei chau am sawl awr yn dilyn y gwrthdrawiad ac mae'r heddlu'n apelio ar dystion i ddod ymlaen.
Dwyeddod y Ditectif Arolygydd Tim Evans o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Rwy'n ddiolchgar i aelodau o'r cyhoedd ac i'r holl wasanaethau brys a ymatebodd i'r gwrthdrawiad, ac mae fy meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r beiciwr a fu farw'n drasig yn y digwyddiad hwn."
"Byddem yn hoffi clywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a allai fod â deunydd CCTV neu gamera dashfwrdd o'r ardal yn y cyfnod yn arwain at amser y gwrthdrawiad."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000648860.


TaithCymru i lansio ym mis Hydref
Bachgen 17 oed ar goll o Fangor
Enwi dau bobl a fu farw mewn damwain awyren
Gosod cyn-ditectif ar restr wahardd plismona
Dau wedi marw mewn damwain awyren ger Trawsfynydd