Mae ymgeisydd annibynnol wedi cipio cyn sedd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd mewn isetholiad.
Mae Rhys Parry wedi ennill y sedd wag yn ward Llanrug gyda mwyafrif o 132 pleidlais dros yr ymgeisydd Plaid, Dewi Rhys Evans ddydd Iau.
Mae Mr Parry hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Llanrug.
Cafodd yr isetholiad eu galw yn dilyn ethol y cyn-gynghorydd Beca Brown fel aelod o'r Senedd yn etholaeth newydd Gwynedd Maldwyn.
Dyma'r canlyniad llawn:
- Rhys Parry (Annibynnol): 394
- Dewi Rhys Evans (Plaid Cymru): 262
- Terry Temple (Reform UK Cymru): 17
- Stacie Marie Ingram (Ceidwadwyr Cymreig): 6
- Sue Macfarlane (Plaid Werdd Cymru): 4
- Linda Park (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru): 3
Cynhelir isetholiad ar gyfer sedd wag Bro'r Llynnoedd yng Nghyngor Ynys Môn ddydd Iau 30 Gorffennaf.


Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid
Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir