Tân mewn tŷ ym Mhorthaethwy

Sunday, 19 April 2026 21:08

By Ystafell Newyddion MônFM

LC

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn delio â thân mewn tŷ ym Mhorthaethwy.

Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Penmynydd tua 5.25yp prynhawn Sul.

Mynychodd y Ambiwlans Awyr Cymru y lleoliad hefyd, ynghyd â'r heddlu a chriwiau ambiwlans.

Cafodd criwiau tân o Fangor a Benllech eu hanfon i'r lleoliad, ond yn ôl llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân, nid oes unrhyw fanylion pellach ar hyn o bryd.

Dwyeddod llefardd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Roeddem wedi anfon ambiwlans brys i'r safle, lle cafodd y criw eu cefnogi gan Uned Ymateb Acíwtedd Brys Cymru a rheolwr gweithrediadau.”

“Darparwyd cefnogaeth gofal critigol uwch gan y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys mewn hofrennydd elusennol Ambiwlans Awyr Cymru.”

Mae MônFM wedi cysylltu â'r gwasanaethau brys i gael rhagor o wybodaeth.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'