Swyddogion traffig i gario diffibrilwyr

Friday, 20 November 2026 at 10:57

By Ystafell Newyddion MônFM

LC

Bydd swyddogion traffig sy'n patrolio prif lwybrau yn cario diffibrilwyr yn dilyn rhodd gan elusen.

Mae'n dilyn digwyddiad ym mis Awst 2023 lle acuhbodd swyddogion traffig a heddlu fywyd dyn o Llanfairpwll ar ôl iddo ddioddef ataliad y galon.

Mae 16 o ddiffibrilwyr allanol awtomatig (AEDs) wedi cael eu rhoi gan Achub Bywyd Cymru; gellir eu defnyddio ar yr A55, yr A470, yr M4 a llwybrau allweddol eraill yng Nghymru.

Roedd Neville Owen, 64 oed, yn gyrru ardref pan gafod ei daro'n wael wrth y llyw yn Nhwnnel Conwy.

Y Swyddog Traffig Travis Leon Kynaston oedd y cyntaf ar y safle a pherfformiodd CPR i gadw Mr Owen yn fyw nes i Gwnstabliaid Troseddau Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru, Duncan Logan a Huw Capper, gyrraedd gyda diffibriliwr ac ailgychwyn calon Mr Owen cyn i'r parafeddygon gymryd yr awenau.

I gydnabod eu gweithredoedd, cafodd y tri swyddog eu cydnabod yn un o seremonïau Achub Bywyd Cymru yn y Senedd lle cawsant gwrdd Mr Owen eto, a chafodd yntau gwrdd staff yr ysbyty a fu'n gofalu amdano.

Dyweddod Travis: "Fel swyddogion traffig, ni yw'r cyntaf i gyrraedd digwyddiadau yn aml, a gall cael diffibriliwr wrth law wneud byd o wahaniaeth."

"Pan wnaethon ni ymateb i'r digwyddiad yn Nhwnnel Conwy, roedd yn rhaid cadw Neville yn fyw nes i fwy o gymorth gyrraedd. Gyda'r offer newydd yma, byddwn yn fwy parod i ymdrin ag argyfyngau meddygol a darparu cymorth achub bywyd ar y ffyrdd."

Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn cael ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty bob blwyddyn - ac am bob munud lle nad yw rhywun sy'n cael ataliad y galon yn cael CPR nac yn cael triniaeth gan ddiffibriliwr, mae eu siawns o oroesi yn gostwng 10%.

Bydd y diffibrilwyr newydd – mewn cydweithrediad rhwng Achub Bywyd Cymru a Traffig Cymru – yn cael eu rhannu'n gyfartal rhwng y Gogledd a'r De.

Ychwanegodd Julie Starling, rheolwr rhaglen clinigol OHCA ar gyfer Achub Bywyd Cymru: "Gwyddom y gall diffibrilio yn gynnar, o fewn y tri i bum munud cyntaf, gynyddu'r siawns o oroesi."

"Mae diffibrilwyr cymunedol yn syml i'w defnyddio, a thrwy roi'r dyfeisiau achub bywyd hyn yng ngherbydau swyddogion traffig, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i oroesiad ataliad y galon ar draws llwybrau allweddol yng Nghymru."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Yvonne Gallienne

    1:00pm - 4:00pm

    Three hours of great music with Yvonne on MônFM!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'