Storiel Bangor yn ddathlu 10 mlynedd

Friday, 3 July 2026 18:58

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae Storiel, amgueddfa ac oriel gelf ym Mangor, yn dathlu 10 mlynedd ers agor ei drysau i'r cyhoedd.

Agorwyd cyn-Balas yr Esgob, sy'n dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif, yn 2016 yn dilyn trawsnewidiad gwerth £2.6 miliwn.

Ers hynny, mae'r ganolfan wedi croesawu dros 370,000 o ymwelwyr ac wedi cynnal amrywiaeth o agoriadau celf, perfformiadau byw a gweithdai creadigol.

I ddathlu, bydd diwrnod arbennig o weithgareddau ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf, gan gynnwys agoriad swyddogol dwy arddangosfa newydd - "Lloriog / Gwallus" gan yr artist Cymreig Erin Hughes a gwaith yr artist tecstilau Toria Cameron, gyda chyflwyniad gan Helen Rees Leahy.

Bydd yna hefyd weithdy llechi ffosil gyda Hannah Coates-Shea, gweithdy 'Zines' gydag Elin Angharad, sgiliau a gemau pêl-droed gyda Byw'n Iach, gweithgareddau hwyliog gyda Gisda a theithiau tywys o gasgliadau Storiel.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros y gymuned: "Rydym yn falch iawn o Storiel – mae'n leoliad pwysig i drigolion Bangor a'r sir i gyd sydd yn dathlu hanes a diwylliant Gwynedd."

"Mae'n lwyfan pwysig i artistiaid a gwneuthurwyr o Gymru ac i bobl o bob oed gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n meithrin eu creadigrwydd."

"Mae'r bartneriaeth gryf sydd rhwng Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor wedi galluogi Storiel i barhau i ddatblygu a darganfod ffyrdd newydd o ddod â phobl ynghyd i fwynhau straeon a chelf ar eu stepan drws."

Mae casgliadau Storiel yn cynnwys bron i 10,000 o eitemau sy'n adrodd hanes cymdeithasol gogledd Cymru, o ddodrefn a thecstiliau i serameg, archaeoleg, celf a ffotograffiaeth.

Fel rhan o'r dathliadau, mae pobl leol yn cael eu gwahodd i rannu eu hatgofion a'u profiadau o ymweld â Storiel trwy anfon clip fideo portread byr a fydd yn cael ei ddangos yn y ganolfan yn y misoedd nesaf.

Ychwanegodd Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol, Prifysgol Bangor: "Rydym yn falch ofnadwy o'n partneriaeth sydd wedi bodoli ers dros ddegawd bellach efo Cyngor Gwynedd i ddiogelu casgliadau Storiel a Phrifysgol Bangor."

"Mae'r cydweithio yn sicrhau gofal casgliadau o'r ansawdd orau yn ogystal â mynediad atynt i'n cymunedau a'n myfyrwyr."

Cynhelir y dathliadau ddydd Sadwrn rhwng 10yb a 4yp - mae mynediad am ddim ynghyd â'r gweithgareddau, ond mae angen archebu ymlaen llaw ar gyfer y gweithdai trwy wefan Storiel.

I anfon clip o'ch atgofion a'ch profiadau Storiel, e-bost storiel@gwynedd.llyw.cymru

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    11:00am - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'