Mae'r rhestr lawn o ymgeiswyr wedi'i chadarnhau ar gyfer etholiadau'r Senedd yn etholaeth Gwynedd Maldwyn.
Bydd 42 o ymgeiswyr yn cynrychioli wyth plaid a dau annibynnol yn sefyll yn yr uwch-etholaeth newydd, a fydd yn cael ei chynrychioli gan chwe aelod.
Mae Gwynedd Maldwyn wedi'i ffurfio o etholaethau presennol Dwyfor Meirionydd ac Maldwyn a rhannau o ardaloedd Arfon a De Clwyd.
Mae'r ardal yn cael ei chynrychioli gan ddau AS ar wahân yn San Steffan - yn etholaethau Dwyfor Meirionydd ac Maldwyn a Glyndŵr
Bydd gan Gymru 16 o etholaethau newydd yn lle 40 fel rhan o ddiwygiadau eang a bydd gan bob etholaeth newydd chwe aelod, sy’n golygu y bydd cyfanswm o 96 aelod yn cael eu hethol i’r Senedd.
Mae'r pedwar rhanbarth etholiadol yn cael eu diddymu, gan gynnwys Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru.
Hefyd, bydd y ffordd y byddwch chi’n pleidleisio yn newid. Enw’r system bleidleisio newydd yw’r 'system rhestr gyfrannol gaeedig'. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n pleidleisio dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol, yn hytrach na phobl unigol.
Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor ddydd Iau 7 Mai rhwng 7yb a 10yh gyda'r cyfrif yn digwydd y diwrnod canlynol.

Gwynedd Maldwyn
Ceidwadwyr Cymreig
- Aled Davies
- Henreitta Hensher
- Peter Lewington
- Hedd Thomas
- Daniel Spilsbury
- Roger Cracknell
Gwlad
- Jeremy Davies
Plaid Heritage
- Mattie Ginsberg
Plaid Cymru
- Siân Gwenllian
- Mabon ap Gwynfor
- Beca Brown
- Elwyn Vaughan
- Elin Hywel
- Donna O'Brien
- Victoria Evans
- Elfed Wyn ap Elwyn
Plaid Werdd Cymru
- Nathan Jarvis
- Nicole Wait
- Sue MacFarlane
- Sian Thomas
- Curtis Wilford
- Ed Mason
Reform UK Cymru
- Andrew Griffin
- Claire Johnson-Wood
- Karl Lewis
- Phillip Robinson
- Mark Blake
- Richard Pendry
Llafur Cymru
- Ian Parry
- Dawn McGuinness
- Steffan Chambers
- Dana Davies
- Mathew Norman
- Morgan Peters
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
- Glyn Preston
- Steve Churchman
- Richard Church
- Pete Roberts
- Carol Robinson
- Manny Akpoteni
Annibynnol (1)
- Monty Kennard
Annibynnol (2)
- Russell George


Carcharu dyn am fyrgleriaethau yn Amlwch
Carcharu dyn 'cenfigennus' am ddegawd o gam-drin
Enw Maldwyn Meirionnydd ar gyfer Eisteddfod 2027
Ceisiadau ar agor ar gyfer gwobr Syr Kyffin
Porthaethwy: dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ