Mae gwaith datblygu ar drydydd croesfan dros y Fenai yn ailddechrau ar unwaith, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi.
Dyweddod Mark Hooper yn y Senedd ddydd Mawrth eu bod yn bwrw ymlaen â chynlluniau, dair blynedd ar ôl i'r prosiect gael ei ohirio oherwydd pryderon amgylcheddol.
Yn ôl y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, cadarnhaodd yr adolygiad o bontydd dros y Fenai fod gwydnwch yn parhau i fod yr her allweddol i gymunedau, busnesau a theithwyr ar Ynys Môn, ac ar draws gogledd Cymru, pan fydd cyfyngiadau ar bontydd neu pan fyddan nhw'n cael eu cau.
Bydd gwaith datblygu ar drydydd croesfan yn cymryd hyd at ddwy flynedd i'w gwblhau, gan gynnwys gwaith dylunio, aesu amgylcheddol a datblygu achos busnes ar gyfer y prosiect.
Bydd buddsoddiad parhaus hefyd yn y ddwy groesfan bresennol i sichrau eu bod yn ddiogel ac yn ddibynadwy, gan gynnwys mesurau gwyndwch ymarferol ar Bont Britannia fel diffleuwrion gwynt a therfynau cyflymder amrywiol.
Mae cynlluniau amgen ar gyfer system llif llanw tair lôn ar Bont Britannia wedi'u gwrthod, gan nodi prydeon diogelwch a gweithredol sylweddol.
Yn ôl Mr Hooper, mae trydydd croesfan yn parhau i fod yn "yr opsiwn mwyaf effeithiol ar gyfer gwella gwydnwch a darparu capasiti ychwanegol" dros yr Fenai.
Dyweddod: "Mae pobl eisiau gweld gweithredu, dim trafodaethau ddiderfyn. Maen nhw eisiau teithiau dibynadwy gyda llai o darfu, a hyder bod y llywodraeth yn mynd ati i wella pethau a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. A dyna'n union beth rydyn ni'n ei wneud."
"Mae pobl ar Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru wedi aros am amser hir am ragor o sicrwydd ynghylch dyfodol y pontydd."
"Heddiw rydyn ni'n amlinellu cynlluniau clir wrth symud ymlaen, gyda gweithredu i wella gwydnwch y pontydd presennol wrth ddechrau ar unwaith ar waith i ddatblygu trydedd bont."
"Gyda'i gilydd dylai'r mesurau hyn wneud gwahaniaeth amlwg i bobl wrth iddyn nhw fyw eu bywydau bob dydd, gan ddarparu dewisiadau teithio gwell, gwydnwch gwell a theithiau cyflymach a mwy dibynadwy."
Yn 2018, roedd pedwar opsiwn posibl i wella cysylltiadau ffyrdd ar draws Afon Menai fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus gan y lywodraeth Lafur Cymru ar y pryd.
Y dewis a ffefrid ar y pryd oedd croesfan newydd i'r dwyrain o Bont Britannia, ynghyd â gwelliannau i gyffyrdd 8 ac 8A yr A55.
Ond cafodd y prosiect ei ohirio'n ddiweddarach cyn cael ei ddileu yn 2023 yn dilyn adolygiad ffyrdd gan weinidogion, gan nodi pryderon ynghylch allyriadau carbon.
Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd y cyngor, Gary Pritchard: "Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ac wedi cydnabod pa mor bwysig ydi hyn i’r Ynys ac i’r rhanbarth yn ehangach."
"Mae trydedd groesfan yn golygu llawer mwy na mynd i’r afael â thagfeydd traffig. Mae’n sicrhau gwydnwch a’r isadeiledd sydd eu hangen ar Ynys Môn ar gyfer y dyfodol; ac yn sicrhau bod ein cymunedau a’n busnesau’n gallu elwa o'r cyfleoedd economaidd sylweddol sydd o’n blaenau."
Ychwanegodd Dylan J Williams, prif weithredwr y cyngor: "Mae hwn yn gam pwysig i Ynys Môn ac i ogledd Cymru, gan gydnabod pwysigrwydd cysylltiad gwydn a dibynadwy i bobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus."
"Mae llawer o waith i’w wneud eto, ond mae’r penderfyniad i ariannu’r camau dylunio a chaniatáu yn rhoi gobaith y gwelwn fomentwm gwirioneddol tu ôl y prosiect. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i wireddu’r weledigaeth hon er budd cenedlaethau’r dyfodol."
Dyweddod Llinos Medi, AS Plaid Cymru dros Ynys Môn: "Wrth i fuddsoddiad yn Gwyndod ac drwy’r porthladd rhydd gynyddu, mae’n hanfodol bod y seilwaith sydd ei angen i gefnogi’r twf hwnnw yn cael ei ddatblygu."
"Byddaf yn pwyso am eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch y rôl y mae’n bwriadu ei chwarae wrth gryfhau ein rhwydwaith trafnidiaeth a sut y bydd yn cyfrannu at y gwaith cyllido ar gyfer trydydd croesfan dros y Fenai."
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi croesawu ymrwymiad y llywodraeth i drydydd croesfan, ond wedi dweud bod angen "cynnal momentwm a chyflwyno cynllun sydd wedi'i ariannu'n llawn ac y gellir ei gyflawni cyn gynted â phosibl."
Dyweddod Janet Finch Saunders, AS Bangor Conwy Môn: "Mae tarfu a thagfeydd ar y croesfannau dros Afon Menai yn ein hatgoffa'n ddyddiol o'r angen am wydnwch uwch o ran cysylltedd trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru."
"Byddai trydedd groesfan i Ynys Môn, ynghyd â gwell mynediad i borthladd Caergybi, yn darparu capasiti ychwanegol ac yn rhoi mwy o hyder i drigolion, busnesau ac ymwelwyr yn ein rhwydwaith trafnidiaeth."
Ond dywedodd Helen Jenner, arweinydd Reform UK yng Nghymru: "Nid yw'r gweinidog trafnidiaeth wedi cyflwyno dim byd heddiw ond mwy o gynlluniau ar gyfer cynlluniau."
Mae AS Bangor Ynys Môn hefyd wedi siarad o blaid trydydd croesfan yn y gorffennol.
Mae Pont Grog y Borth, a nododd ei phen-blwydd yn 200 oed eleni, wedi cael ei chau sawl gwaith yn ystod gwaith cynnal a chadw – gyda cherbydau rhy drwm yn torri’r cyfyngiadau ar dair achlysur yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, gan achosi aflonyddwch difrifol i’r traffig.


Antur yn Awstralia yn ysbrydoli arddangosfa newydd
Cau'r brif ffordd i Landdwyn oherwydd gwaith
Bangor: llinell uniongyrchol i fam y babi
Llanfairfechan: rhyddhau gyrrwr ar ôl marwolaeth bachgen
Apêl yn dilyn ymosodiad ym Mhentrefelin