Antur yn Awstralia yn ysbrydoli arddangosfa newydd

Tuesday, 6 October 2026 13:22

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae artist bywyd gwyllt ifanc yn paratoi i arddangos ei chasgliad o gelf bywyd gwyllt yn Oriel Môn.

Mae Ceri Jones o Ruthin wedi treulio blwyddyn yn Awstralia yn creu cyfres o weithiau celf wedi'u hysbrydoli gan y creaduriaid rhyfeddol y daeth ar eu traws yno.

Dechreuodd y cyfan gyda brasluniau syml mewn dyddiadur, a symud ymlaen i brosiect creadigol mwy, gan roi'r hyder iddi ddatblygu'r gwaith mewn mwy o fanylder.

Dyweddod Ceri: "Maent yn cynrychioli'r lleoedd cefais ymweld â nhw a'r atgofion. Mae eu harddangos yn Oriel Môn yn arbennig iawn i mi."

"Rwyf wedi ymweld â'r oriel sawl tro, ac mae cael fy arddangosfa fy hun yno yn unigryw dros ben."

Doedd ganddi ddim bwriad gwneud gweithiau mawr i ddechrau, gan gario dim ond pensil HB, rhwbiwr a'i dyddiadur gyda hi ar gyfer gwneud brasluniau sydyn ar hyd y daith. Datblygodd ei syniadau, yn ogystal â'r angen i gael deunyddiau gwell.

Derbyniodd gefnogaeth o gartref, dros 10,000 o filltiroedd i ffwrdd. Ar ôl cael galwad FaceTime gyda'i mam i ddod o hyd i'r cyfarpar cywir, roedd Ceri'n gallu mynd at i greu yn syth ar ôl i'r parsel gyrraedd.

Tynnodd luniau mewn sawl sw a gwarchodfa fyddai'n cael eu defnyddio fel y deunydd cyfeirio ar gyfer y gwaith gorffenedig.

Mae eisoes wedi ffafrio defnyddio pensiliau pastel am ei bod yn credu eu bod yn ddewis naturiol ar gyfer yr arddull realistig mae eisiau ei greu. Maent yn eu galluogi i greu gweadeddau hardd a mân fanylion, yn enwedig ffwr a llygaid.

Ar ôl arbrofi gyda sawl opsiwn cefndir, du oedd y mwyaf effeithiol. Mae ei wrthdrawiad cryf yn amlygu pob gwrthrych ac yn rhoi ffocws clir i'r gwyliwr.

Mae Ceri yn hynod falch o'r gyfres orffenedig. Mae'n fwy nag astudiaeth o fywyd gwyllt, ac mae'r darnau'n cydio yn y profiadau a'r ysbrydoliaeth ddaeth gartref gyda hi.

Ychwanegodd Nicola Gibson, rheolwr profiad ymwelwyr Oriel Môn: "Mae hwn yn gorff o waith trawiadol. Mae arddull realistig Ceri yn cael ei gydbwyso gan gyfansoddiad trylwyr, sy'n rhoi ymdeimlad newydd a chyfoes i'r arddangosfa."

"Bydd ymwelwyr yn cael eu denu gan sylliad yr anifeiliaid a bydd yn anodd iawn tynnu i ffwrdd."

Bydd arddangosfa Ceri ar gael ym Oriel Môn o ddydd Mawrth 20 Hydref 2026 i ddydd Iau 31 Ionawr 2027. Mae Oriel Môn ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul rhwng 10.00am a 5.00pm. Mynediad am ddim.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Brecwast MônFM gyda Kev Bach

    7:00am - 10:00am

    Bore da! Mae Kev Bach yn nôl i ddeffro Ynys Môn a Gwynedd!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'