Mae cwest wedi agor yn dilyn yn dilyn marwolaeth myfyriwr coleg o Amlwch.
Roedd Leo Salisbury, 17 oed, wedi bod ar goll ers mynd i mewn i'r dŵr ger Pont Menai ddydd Gwener 20 Medi.
Bu'r gwasanaethau brys yn chwilio'r ardal am wyth diwrnod tan dydd Sadwrn diwethaf.
Yn ôl archwiliad post mortem, mai achos dros dro'r farwolaeth oedd boddi tybiedig
Cafodd y gwrandawiad yng Nghaernarfon ei ohirio tan ddyddiad diweddarach gan grwner Gogledd Orllewin Cymru, Katie Robertson, tra bod yr ymchwiliad i'r farwolaeth yn parhau.


Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
Carcharu dyn wedi ymosodiad rhywiol ar ferch