Mae dyn o Llangefni a ymosododd yn rhywiol ar swyddog heddlu a oedd ar ddyletswydd wedi cael dedfryd o garchar wedi ei ohirio.
Plediodd Jason Hender, 49 oed, yn euog i ddau gyhuddiad yn dilyn ffrae ar y stryd ddydd Sadwrn diwethaf.
Roedd dau swyddog ar batrôl yn y dref pan ddaethon nhw ar draws yr aflonyddwch, gan roi aelodau eraill o'r cyhoedd mewn perygl.
Fe wnaeth y swyddogion dawelu'r sefyllfa, ond ymosododd Hender ar un o'r swyddogion.
Cafodd ei arestio a chanfuwyd ei fod yn meddu ar gocên.
Yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun, cafodd Hender ei ddedfrydu i 30 wythnos yn y carchar, wedi'i ohirio am 18 mis.
Cafodd ei ychwanegu hefyd at y gofrestr troseddwyr rhyw ac mae'n rhaid iddo gofrestru hefo'r heddlu am 10 mlynedd.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y swyddog wedi dioddef profiad "cywilyddus a diraddiol...a oedd yn ceisio gwarchod aelodau o'r gymuned".
Meddai'r Rhingyll Cynorthwyol Ardal, Matt Bentley: "Cafodd y mater hwn ei ymdrin yn gyflym a rhoddwyd Hender o flaen y llysoedd mewn dim ond dau ddiwrnod."
"Dylai hyn anfon neges glir na fydd trais yn erbyn merched a genethod yn cael ei oddef. Bydd y math hwn o ymddygiad yn cael ei herio ac ni fydd yn cael ei dderbyn."
"'Da ni'n parhau i annog unrhyw ddioddefwr troseddau rhywiol i ddod ymlaen. 'Da ni yma i wrando, a byddwn ni'n cymryd camau cadarn i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell."


Hwb hydrogen Caergybi yn "symud ymlaen"
Digartrefedd yn y chwyddwydr mewn cyfres teledu
Prosiect i adfywio byd natur yn Nant Ffrancon
Ymestyn y cynnig gofal plant i Môn
Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid