Mae'r heddlu wedi cyflwyno hysbybiad cau ar tŷ yn Llangefni yn dilyn pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol 'parhaus'.
Yn ôl swyddogion, mae'r cyfeiriad ar Ger y Winllan wedi bod yn gysylltiedig â gweithgaredd troseddol
Mae’r hysbysiad yn gwahardd unrhyw un sydd ddim yn byw yn y cyfeiriad rhag mynd i fewn, ac mi fydd unrhyw unigolyn sydd ar yr eiddo’n anghyfreithlon yn cael eu harestio.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Wayne Francis: "'Da ni’n gobeithio bod yr hysbysiad cau hwn yn tawelu meddwl preswylwyr sy’n byw gerllaw, sydd wedi profi aflonyddwch sylweddol oherwydd digwyddiadau yn y cyfeiriad hwn."
"Mi wnawn ni barhau i wrando ar bryderon mae aelodau o'r gymuned yn eu codi. Mi wnawn ni gymryd adroddiadau o ddifri a chymryd camau cyflym er mwyn cadw preswylwyr yn saff."


Er cof am Gwyn Owen
Pont y Borth i gau eto
Gorsedd: Gwisg Werdd i Malachy
Llys yn gorfodi cau siop yng Nghaernarfon
Cyhuddo dyn yn dilyn gyfres o fyrgleriaethau