Mae cyn-dditectif wedi cael ei gwahardd rhag gweithio gyda'r heddlu ar ôl iddi gael ei heuogfarnu am gamddefnyddio cyfrifiaduron.
Cafywyd y cyn-ditectif arolygydd Emma Gardner yn euog o dresedd o gael mynediad at systemau cyfrifiadurol TG Heddlu Gogledd Cymru heb ddiben plismona.
Ym mhencadlys yr heddlu ym Mae Colwyn ddydd Llun, canfu gwrandawiad, na wnaeth y cyn swyddog ei fynychu, fod yr honiad wedi'i brofi a bod ei gweithredoedd yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.
Ymddiswyddodd Gardner o'r heddlu yn ystod achos cyfreithiol, ond pe bai hi'n dal i fod yn swyddog heddlu yn gwasanaethu, byddai wedi cael ei diswyddo heb rybudd.
Bydd ei henw yn cael ei roi ar restr Unigolion Gwaharddedig y Coleg Plismona, gan ei hatal rhag gweithio o fewn plismona yn y dyfodol.
Dyweddod y Prif Gwnstabl, Amanda Blakeman: "Ymddiriedir yn swyddogion a staff yr heddlu hefo mynediad at wybodaeth sensitif iawn, ac mae'r cyhoedd yn iawn yn disgwyl i'r wybodaeth honno gael ei defnyddio at ddibenion plismona cyfreithlon yn unig."
"Mae'r safonau a ddisgwylir gan y rhai sy'n gweithio ym maes plismona yn uchel iawn, ac mae cynnal hyder y cyhoedd yn sylfaenol i bopeth a wnawn ni."
"Roedd yr achos hwn yn ymwneud hefo ymddygiad troseddol a oedd yn disgyn ymhell yn is na'r safonau a ddisgwylir gan swyddog heddlu."
"Mae camddefnyddio systemau a gwybodaeth yr heddlu yn tanseilio'r ymddiriedaeth y mae'r cyhoedd yn ei roi mewn plismona, ac felly mae'n iawn fod camau cadarn wedi'u cymryd."
"Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal y safonau proffesiynol uchaf a sicrhau bod swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn cael eu dal yn atebol pan nad ydy'r safonau hynny'n cael eu bodloni."
Mae Gardner, cyn-ringyll yng ngorsafoedd heddlu Caernarfon a Bangor, ar fechnïaeth ar hyn o bryd tan ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener 11 Medi.


TaithCymru i lansio ym mis Hydref
Bachgen 17 oed ar goll o Fangor
Enwi dau bobl a fu farw mewn damwain awyren
Dau wedi marw mewn damwain awyren ger Trawsfynydd
Bangor: cynlluniau i greu gofod awyr agored