Mae gwaith wedi dechrau ar ganolfan gofal ychwanegol gwerth £33 miliwn ym Mhorthaethwy.
Bydd cynllun Aethwy, sy'n cynnwys cartref preswyl a fflatiau, yn diwallu'r galw cynyddol ymysg mhoblogaeth sy'n heneiddio'r Ynys Môn.
Yn ôl Cyngor Môn, disgwylir i nifer y bobl dros 85 oed gynyddu tua 70% dros y degawd nesaf.
Ym mis Ebrill, rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad yn Tyddyn Mostyn, er gwaethaf gwrthwynebiadau ynghylch pryderon amgylcheddol a tharfu posib i drigolion lleol.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua dwy ran o dair o gostau prosiect cyfalaf mwyaf erioed mewn hanes yr awdurdod lleol.
Eglurodd Fôn Roberts, cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol y cyngor: "Mae cynllun Aethwy yn gam sylweddol ymlaen wrth ddarparu cynllun y cyngor a paratoi Ynys Môn ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio."
"Drwy gyfuno tai gofal ychwanegol, gofal preswyl a chefnogaeth dementia arbenigol ar un safle, rydym yn sicrhau y gall pobl fyw'n annibynnol yn hirach tra'n gwybod fod y gofal cywir ar gael pan fydd eu hanghenion yn newid."

Bydd y cynllun newydd yn cynnwys 45 o fflatiau gofal ychwanegol a chartref gofal preswyl 26 gwely ynghyd â chanolfan ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gwasanaethu de'r Ynys.
Bydd y cartref preswyl yn cynnwys gofal arbenigol i bobl â dementia, gan ehangu cefnogaeth fewnol y cyngor ac yn galluogi pobl ag anghenion fwy dwys i dderbyn gofal yn agosach at adref, wedi eu hamgylchynu gan gymunedau cyfarwydd a'u teuluoedd.
Bydd gan denantiaid gofal ychwanegol eu cartrefi eu hunain ond bydd modd iddynt gael mynediad at gymorth pan fydd ei angen arnynt gan leihau unigrwydd a chefnogi llesiant drwy weithgareddau cymdeithasol a bywyd cymunedol.
Meddai'r Cynghorydd Neville Evans, sy'n dal y portffolio'r gwasanaeth oedolion: "Mae'r datblygiad hwn yn cynrychioli buddsoddiad hirdymor mewn gofalu am gymunedau Môn, rŵan ac yn y dyfodol."
"Bydd yn cryfhau'r ddarpariaeth ofal ar gyfer de'r Ynys ac yn darparu cefnogaeth arbenigol ar gyfer dementia yn agosach at adref."
"Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad at ddarparu'r gofal gywir, ar yr amser cywir, yn y lle cywir, tra'n cefnogi cymunedau a'n cynllunio mewn modd cyfrifol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua £22 miliwn mewn grantiau gyda'r gweddill yn cael ei ariannu gan fenthyca Cyfrif Refeniw Tai.
Dywed Cyngor Ynys Môn fod cynllun Aethwy wedi'i ddatblygu'n ofalus i sicrhau ei fod yn hunangynhaliol yn ystod oes yr adeilad a bod lefelau rhent yn cael eu cadw'n fforddiadwy i breswylwyr.
Dwyeddod Delyth Jewell, dirpwy weinidog dros ofal cymdeithasol: "Mae cynllun Aethwy y math o fuddsoddiad hirdymor, cymunedol yr ydym am ei weld."
"Drwy ddod â gwahanol fathau o gefnogaeth at ei gilydd o dan un to fe ddylai'r datblygiad hwn alluogi pobl i fyw'n annibynnol am hirach, gyda'r gefnogaeth gywir ar gael pan fydd ei hangen arnynt."
"Mae'n gam sylweddol ymlaen er mwyn adeiladu system ofal a chefnogaeth sy'n gynaliadwy ac wedi gwreiddio yn y gymuned mae'n ei wasanaethu."

Mae'r datblygiad newydd, sy'n cwmpasu chwe erw o dir, yn cael ei adeiladu gan y cwmni Wynne Construction a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2028.
Dyweddod Chris Wynne, rheolwr gyfarwyddwr Wynne: "Dyma brosiect sydd wedi'i ddylunio'n ofalus ac edrychwn ymlaen at chwarae ein rhan er mwyn creu adnodd croesawgar a chynaliadwy ar gyfer cymuned Porthaethwy a de'r Ynys."
"Ochr yn ochr â'r gwaith adeiladu, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwerth cymdeithasol ystyrlon drwy ymgysylltu ag ysgolion lleol, mentrau cyflogaeth a chyfleoedd i'r gymuned ehangach."
"Byddwn yn cydweithio'n agos â'r cyngor sir er mwyn sicrhau bod trigolion sy'n byw ger y safle yn cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r cynllun fynd rhagddo."
Ychawnegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, caderydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru: "Mae'r cynllun hwn yn rhan o'n cynllun cyfalaf uchelgeisiol ar gyfer gogledd Cymru ac rwy'n falch o weld bod y gwaith ar y cynllun cyffrous hwn, sydd wir ei angen, wedi dechrau ar Ynys Môn."
"Bydd y buddsoddiad cyfalaf hwn yn galluogi pobl i fyw'n annibynnol am gyfnod hirach, wrth sicrhau mynediad amserol at ofal a chefnogaeth pan fydd ei angen. Edrychaf ymlaen at weld cynnydd ar y safle."


Porthaethwy: carcharu dyn am gario cyllell
Planhigion yn ffynnu yn yr Afon Gwyrfai
Caergybi: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Carcharu dyn o Gaernarfon a ymosododd ar ei frawd
Dechrau prysur i'r haf MônActif