Mae cystadleuaeth enwi wedi'i lansio ar gyfer y datblygiad niwclear bach newydd yn Wylfa.
Mae GBE-N yn gofyn i drigolion yr ynys - gan gynnwys plant a phobl ifanc - i dewis enw ar gyfer yr orsaf bŵer newydd, a fydd yn creu hyd at 3,000 o swyddi yn lleol.
Dyweddod Simon Roddy, prif weithredwr GBE-N: "Dyma ddechrau perthynas fydd yn para degawdau gyda phobl Ynys Môn, felly mae’n gwbl briodol ein bod ni’n gofyn iddyn nhw helpu i enwi’r orsaf bŵer a fydd yn rhan o stori’r gymuned hon am genedlaethau i ddod."
"Wylfa ydy’r prosiect cyntaf o’i fath yn y DU, gyda manteision tymor hir yn lleol ac yn genedlaethol. Yn GBE-N, rydyn ni o ddifrif ynghylch darparu’r prosiect yn ddiogel, yn gyfrifol a gyda’r gymuned yn ganolog iddo."
"Dyma ein cyfle ni i gyflawni cenhadaeth sy’n hanfodol yn genedlaethol ac rydyn ni’n gyffrous ac wedi ymrwymo i wneud hynny gyda’n gilydd."

Dyweddod yr Aglwydd Patrick Vallance, y Gweinidog Niwclear: "Mae hwn yn foment hanesyddol i Ogledd Cymru – bydd prosiect adweithydd modiwlaidd bach cyntaf y DU yn creu swyddi a chyfleoedd da i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol – felly rydym eisiau i’r gymuned leol helpu i’w enwi."
"Rydym yn rhoi Ynys Môn wrth galon oes aur newydd niwclear Prydain, a fydd yn helpu i bweru’r wlad gydag ynni glân a gynhyrchir yn y DU, yr ydym ni’n ei reoli.”
Yn ôl GBE-N, mae'r datblygwyr yn chwilio am:
- Enw sydd wedi'i ysbrydoli gan Ynys Môn, ei threftadaeth, ei thirwedd neu'r iaith;
- Enw sy'n hawdd ei ynganu ac sy'n groesawgar i gynulleidfa eang;
- Enw parchus a chynhwysol sy'n cadw'r gymuned mewn cof;
- Enw unigryw nad yw'n cael ei ddefnyddio'n aml ar gyfer prosiectau ynni tebyg yn barod.
Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan banel o bobl ifanc Môn ochr yn ochr ag arweinwyr yn y diwydiant a'r gymuned.
Ychwanegodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru: "Mae Llywodraeth y DU yn cyflawni ar ei haddewid i ddod â niwclear newydd i Ynys Môn."
"Bydd y prosiect hwn, wedi’i gefnogi gan fuddsoddiad hanesyddol o £2.6 gan Lywodraeth y DU, yn cefnogi miloedd o swyddi ar yr ynys, hybu twf economaidd, a helpu i sicrhau annibyniaeth ynni’r DU."
"Rwy’n gyffrous am y rôl y bydd pobl Ynys Môn yn ei chwarae wrth ddewis enw ar gyfer y safle. Mae pobl leol yn ganolog i’r prosiect hwn ac fe fyddant felly am genedlaethau i ddod."
Mae ceisiadau ar agor tan 5pm ddydd Llun 8 Mehefin a bydd yr enw buddugol yn cael ei gyhoeddi'n fuan wedyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GBE-N.


Môn yn dechrau ymgynghoriad ar dreth twristiaeth
Newidiadau mawr i amserlenni trên
Talwrn: benthyciad ar gyfer prosiect tai
Urdd 2026: Môn yn codi £380k
Pont y Borth ar gau eto