Mae statws sychder wedi'i ddatgan yng Ngogledd Cymru gan swyddogion amgylcheddol, yng nghanol lefelau afonydd isaf erioed, tonnau gwres olynol a thanau gwyllt eang.
Gwnaethpwyd y penderfyniad hwn yn dilyn tywydd poeth a sych parhaus dros yr wythnosau diwethaf ac mae'r ardaloedd yr effeithir arnynt yn cynnwys Ynys Môn a gogledd a de Gwynedd.
Yn ôl Cyfoedd Naturiol Cymru (CNC), mae’n edrych yn debyg mai dyma fydd y Gorffennaf sychaf yng Nghymru ers bron i 190 mlynedd, os na fydd glawiad sylweddol yn cyrraedd cyn diwedd y mis.
Mae Gogledd Cymru wedi cael llai na 2% o'r glawiad disgwyliedig am y mis hyd yma ac mewn sawl ardal o'r rhanbarth, does dim glawiad sylweddol wedi bod ers 6 Gorffennaf.
Mae llif afonydd ar draws rhannau helaeth bellach yn eithriadol o isel am yr adeg o'r flwyddyn, gyda rhai lleoliadau yn cofnodi isafswm llif misol newydd ac eraill yn agosáu at y cofnodion isaf erioed.
Mae gweithgarwch monitro CNC hefyd yn dangos bod llif afonydd ar draws y dalgylchoedd yr effeithir arnynt yn eithriadol o isel, wrth i lefelau dŵr daear barhau i ostwng, ac wrth i dymheredd afonydd barhau i fod yn uchel.
Er bod cwmnïau dŵr yn adrodd bod lefelau cronfeydd dŵr yn parhau i fod yn iach ar y cyfan, mae CNC yn annog pobl i ddefnyddio dŵr yn ddoeth. Mae pob diferyn sy’n cael ei arbed yn helpu i leihau’r pwysau ar yr amgylchedd yn ystod cyfnodau sych.
Mae'r amodau sych hefyd wedi cynyddu'r risg o danau gwyllt yn sylweddol gyda nifer o danau gwyllt mawr yn ystod yr wythnosau diwethaf ar draws y Gogledd, gan gynnwys ym Mhentrefelin ger Caergybi a choedwig Braichmelyn ger Bethesda.
Dywedodd Rhian Thomas, rheolwr dŵr CNC: "Mae'r cyfnod hir o dywydd sych a phoeth rydyn ni wedi bod yn ei gael yr haf hwn bellach yn cael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd ar draws rhannau o Gymru."
"Rydyn ni wedi gweld afonydd yn disgyn i lefelau eithriadol o isel, dŵr daear yn parhau i ddirywio, ac adroddiadau cynyddol am effeithiau amgylcheddol sy'n effeithio ar fywyd gwyllt, pysgodfeydd, ffermio a chynefinoedd sensitif."
"Mae'r tanau gwyllt diweddar ar draws Gogledd Cymru...yn un o'r arwyddion mwyaf clir a gweladwy o ba mor sych yw ein tirweddau ni ar hyn o bryd."
"Mae ein timau yn parhau i weithio'n agos gyda’r gwasanaethau tân ac achub, partneriaid lleol a rheolwyr tir i ymateb i'r digwyddiadau hyn a lleihau’r risgiau lle bo hynny'n bosibl."
"Er nad yw statws sychder yn golygu prinder dŵr i gwsmeriaid yn awtomatig, mae'n adlewyrchu'r pwysau cynyddol sy'n cael ei roi ar ein hamgylchedd."
"Rydyn ni’n gofyn i bawb chwarae eu rhan drwy ddefnyddio dŵr yn ddoeth a helpu i amddiffyn adnoddau naturiol Cymru yn ystod y cyfnod eithriadol o sych hwn."
Mae'r rhagolygon yn awgrymu tywydd sych pellach dros yr wythnos nesaf, gyda'r posibilrwydd o gyfnodau poeth ychwanegol yn nes ymlaen yn yr haf.
Heb lawiad parhaus a sylweddol, mae'r corff amgylcheddol yn rhybuddio y gallai’r amodau ddirywio ymhellach a gallai dalgylchoedd ychwanegol symud i statws sychder.


Tân glaswellt ym Mynydd Bangor
Dau gaiaciwr ar goll o Bwllheli
Carcharu dyn o Gaergybi ar ôl cyrch cyffuriau
Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Trydydd croesfan Menai yn "hanfodol" - cyngor