Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau

Tuesday, 21 July 2026 15:23

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae pedwar dyn wedi cael eu carcharu am eu rhan mewn gang delio cyffuriau trefnus sy'n targedu Ynys Môn a Gwynedd.

Gwnaed cyfres o arestiadau ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2025 yn dilyn ymchwiliad o'r enw Ymgyrch Macondo i'r cyflenwad mawr o gocên a chanabis yn y rhanbarth.

Mae pedwar aelod o'r gang wedi cael eu dedfrydu i gyfanswm o 28 mlynedd yn y carchar tra bod pedwar dyn arall wedi cael dedfrydau gohiriedig.

Ar 10 Tachwedd, stopiwyd cerbyd a oedd wedi teithio o Ynys Môn i Lannau Mersi. Roedd y cerbyd yn cael ei yrru gan Joseph McCormick, 34 oed o Bootle, ac ar ôl chwilio y tu mewn iddo darganfuwyd £20,000 mewn arian parod.

Ar yr un diwrnod, cynhaliwyd gwarant yng nghyfeiriad Gareth Trevor Rowland yn Llanfairpwll a arweiniodd at adennill £90,000 o arian parod a gwerth £120,000 o nwyddau moethus, wedi eu dwyn.

Ar 14 Tachwedd, stopiwyd cerbyd arall yn ardal Manceinion a oedd yn cael ei yrru gan Steve Powell. Datgelodd chwiliad o'i gerbyd 3kg o ganabis, gwerth tua £28,000.

Ar ôl chwilio pellach yng nghartref Powell yn ardal Stockport, darganfuwyd 2kg o gocên gyda gwerth stryd o £120,000.

Ar 9 Rhagfyr, cynhaliwyd cyfres o warantau ar draws Gogledd Cymru, Manceinion a Glannau Mersi. Cafodd cyfanswm o 10 o bobl eu harestio yn ystod y cyrchoedd ac atafaelwyd £9,000 arall mewn arian parod.

Yn gyffredinol, adferodd yr ymchwiliad symiau sylweddol o gyffuriau Dosbarth A a B, arian parod ac asedau moethus gwerth bron i £390,000.

Roedd y cyhuddiadau dilynol a ddygwyd yn erbyn y diffynyddion yn ymwneud â chynllwyn i gyflenwi Cyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B rhwng Chwefror a Thachwedd 2025.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun, cafodd saith o'r wyth dyn a gafwyd yn euog o'u rolau yn y gang eu dedfrydu.

Mae Gareth Trevor Rowlands, 52 oed o Llanfairpwll, wedi cael ei ddedfrydu i 11 mlynedd a thri mis am gynllwynio i gyflenwi cocên, cynllwynio i gyflenwi canabis a meddu ar eiddo troseddol.

Dedfrydwyd Steven Powell, 62 oed o Stockport, i 10 mlynedd am gynllwynio i gyflenwi cocên a chynllwynio i gyflenwi canabis.

Cafodd Darren Horton, 54 oed o Bortaethwy, ei ddedfrydu i dair blynedd a saith mis am gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis.

Cafodd Steven Williams, 34 oed o Gaernarfon, ei ddedfrydu i dair blynedd a dau fis am gynllwynio i gyflenwi cocên.

  • Dedfrydwyd Joseph McCormick, 34 oed o Bootle, i 12 mis o ddedfryd ohiriedig am gynllwynio i gyflenwi cocên, cynllwynio i gyflenwi canabis, bod â MDMA yn ei feddiant ac eiddo troseddol yn ei feddiant.
  • Cafodd Craig Harris, 52 oed o Llanfairpwll, ei ddedfrydu i naw mis wedi ei ohirio am 12 mis am gynllwynio i gyflenwi canabis.
  • Cafodd Dennis Edwards, 22 oed o Gyffordd Llandudno, ei ddedfrydu ar 9 Mehefin i ddwy flynedd a thri mis, wedi'i ohirio am dair blynedd, am gynllwynio i gyflenwi canabis a meddu ar eiddo troseddol.
  • Cafodd Dafydd Hughes, 31 oed o'r Felinheli, ei ddedfrydu i dair blynedd wedi ei ohirio am gynllwynio i gyflenwi cocên.

Yn dilyn y ddedfrydu, dywedodd y Brif Arolygydd Tracey Llewellyn o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'r unigolion hyn wedi bod yn faich ar ein cymunedau ers blynyddoedd ac wedi achosi llawer o niwed i lawer o unigolion bregus."

"Yn ogystal â'r dedfrydau sylweddol a roddwyd, arweiniodd ein hymchwiliad at atafaelu swm sylweddol o gyffuriau, a sicrhaodd fod y sylweddau anghyfreithlon hyn yn cael eu tynnu oddi ar y strydoedd."

"Mae cyffuriau anghyfreithlon yn cael effaith hynod niweidiol ar gymunedau, felly mae torri cyflenwadau a chael gwared ar y rhai sy'n gyfrifol am ddelio cyffuriau o'n cymunedau yn bwysig iawn i ni."

"Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn ganolog i'n llwyddiant gweithredol, a byddwn yn parhau i weithio'n rhagweithiol ac yn ddi-baid i adnabod, tarfu ar waith ac erlid y rhai yr amheuir eu bod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn ein dinasoedd, trefi a phentrefi."

"Mae ymladd, atal a lleihau troseddau trefnedig sy'n niweidio cymunedau yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni fel heddlu."

"Rydym yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am ddelio cyffuriau neu droseddau trefnedig eraill sy'n digwydd yn eu cymunedau i ddod ymlaen fel y gallwn dynnu unigolion peryglus oddi ar y strydoedd."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'